Gerallt Lloyd Owen
Fe gyhoeddwyd heddiw y bydd yr arian a gaiff ei gasglu er cof am y Prifardd Gerallt Lloyd Owen, yn mynd at yr ymgyrch ‘Ie’ ar gyfer refferendwm annibyniaeth yr Alban ar Fedi 18.

Yng ngolofnau marwolaethau papur newydd y Daily Post heddiw, fe gadarnhawyd mai fore Gwener nesa’, Gorffennaf 25, y bydd ei angladd cyhoeddus, a hynny yn Amlosgfa Bangor am 11 o’r gloch y bore.

Ond wrth nodi na fydd blodau, mae’r cyhoeddiad yn dweud y bydd “unrhyw rodd er cof am Gerallt yn mynd i’r ymgyrch ‘Ie’ yn yr Alban”.

Mae’r golofn hefyd yn nodi y bydd cyfarfod coffa “yn ei dro”.