Owen Williams
Mae clwb rygbi Gleision Caerydd yn annog cefnogwyr a phobol o bob cwr o’r byd rygbi i gadw’r ffydd ac uno er mwyn cefnogi Owain Williams – y chwaraewr a gafodd ei anafu difrifol i’w asgwrn cefn tra’n chwarae yng Ngwpan y Byd yn Singapor fis diwetha’.

Mae’r Gleision heddiw wedi lawnsio ymgyrch i godi arian ac i godi ymwybyddiaeth o’i anafiadau.

Mae Owain ar hyn o bryd yn parhau yn Uned Anafiadau’r Asgwrn Cefn a Newroleg, Ysbyty Rookwood yng Nghaerdydd, wrth iddo ddechrau ar y ffordd hir i wellhad.

Uno er mwyn Ows

“Mae’r Gleision wedi uno gyda’r Welsh Rugby Charitable Trust er mwyn gwneud yn siwr y gallwn godi arian a fydd yn werthfawr i gefnogi Owen yn y tymor hir,” meddai llefarydd ar ran y clwb.

“Mae modd i gefnogwyr ddangos eu cefnogaeth trwy brynu bandiau i’w gwisgo ar eu garddwrn sydd wedi’u creu’n arbennig ar gyfer yr ymgyrch, #StayStrongForOws.

“Mae’r bandiau wedi’u cynllunio mewn glas ac aur er mwyn cynrychioli’r Gleision a chlwb tref enedigol Owen, Aberdar.