Mae pryder ymysg trefnwyr a chystadleuwyr Ras yr Wyddfa na fydd y digwyddiad yn mynd yn ei flaen yfory oherwydd y rhagolygon tywydd gwael.

Mae disgwyl i dros 600 o redwyr o Gymru, Yr Eidal, Sbaen, Malta, America a Japan heidio i Lanberis ar gyfer y ras fyd-enwog sy’n ymlwybro o Lyn Padarn i gopa mynydd uchaf Cymru.

“Mae hi’n braf yn Llanberis rŵan ond mae rhagolygon y tywydd ‘fory yn ofnadwy, hefo cenllysg, mellt a tharanau,” meddai’r trefnydd Stephen Edwards.

“Mae pobol yn fy ffonio i o hyd i weld os ydy’r ras dal ymlaen”.

Mae gan bwyllgor y ras yr hawl i gwtogi maint y cwrs 10 milltir os yw’r tywydd yn debygol o roi’r rhedwyr mewn peryg. Ar hyn o bryd, mae disgwyl i’r ras gychwyn o Lanberis am ddau o’r gloch bnawn fory.

Cyfraniad

Wrth sôn am y gwaith trefnu sydd ynghlwm â digwyddiad mor uchel ei broffil a Ras yr Wyddfa, dywedodd  Stephen Edwards:

“Mae’r ras yn tyfu bob blwyddyn a gan mai gwirfoddolwyr ydan ni, a’n bod ni’n dal i weithio’n llawn amser, mi fasa hi’n dda iawn cael mwy o help.

“Fel mae gobeithion a disgwyliadau pobol yn mynd yn fwy rydw i fel trefydd wedi trio gwneud pethau’n well gyda mwy o stondinau a digwyddiadau i’r cyhoedd. Yn 2009, dim ond ras oedd hi, ond mae’r digwyddiad yn fwy o garnifal erbyn hyn.

“Mi fysen ni’n gwerthfawrogi cael pobol leol yn dod allan i’n helpu ni. Y mwyaf o help sydd ganddom ni, y gorau.”

Ychwanegodd fod y ras yn hwb mawr i’r ardal leol:

“Mae’n ddiwrnod arbennig i’r pentref. Rydym ni’n tynnu pobol i mewn ac yn helpu i roi Llanberis ar y map unwaith eto.”

Teyrnged

Cyn cychwyn y ras, mae’r trefnwyr yn bwriadu rhoi teyrnged i gyn-brif warden Parc Cenedlaethol Eryri, John Ellis Roberts, fu farw ddoe mewn damwain wrth iddo ddringo yn Ninas Cromlech ar Fwlch Llanberis.