Gerallt Lloyd Owen (1944 - 2014)
Fe fu farw un o feirdd mwya’r Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif.

Roedd Gerallt Lloyd Owen yn cael ei ystyried yn un o’r cynganeddwyr gorau erioed ac, yn ei genhedlaeth, ar yr un tir â’r diweddar Dic Jones.

Ond roedd hefyd wedi cydio yn ysbryd cenhedlaeth gyda’i gerddi gwladgarol, yn dathlu hanes Cymru a’i diwylliant cynhenid ac yn gwaredu at ddirywiad y Gymraeg a’i chymunedau.

Cerddi’r Cywilydd

Roedd wedi cyhoeddi ei gyfrol gynta’ pan oedd yn ugain oed ond fe ddaeth yn wirioneddol enwog wrth ennill ei drydedd cadair yn Eisteddfod yr Urdd yn 1969.

Y cerddi hynny – yn sôn am warth Arwisgo’r flwyddyn honno – oedd y sail i’w ail gyfrol Cerddi’r Cywilydd ac mae llawer yn credu mai dyma’r cerddi gorau erioed i ennill yn yr Urdd.

Y noson ar ôl ei gadeirio fe aeth cyngerdd yn wenfflam wrth i Dafydd Iwan adrodd un o’r cerddi buddugol, ‘Wylit, wylit Lywelyn’.

Cefndir

Ac yntau’n dod o’r Sarnau ger Y Bala roedd wedi dod o dan ddylanwad yr adroddwr Llwyd o’’r Bryn ac roedd ei dad, Henry Lloyd Owen, yn ddylanwad mawr arno hefyd. Mae ei frawd, Geraint Lloyd Owen, hefyd yn brifardd.

Ac yntau wedi bod yn athro yn ysgol annibynnol Trefor Morgan, fe sefydlodd wasg Tir Iarll ac wedyn cyd-sefydlu Gwasg Gwynedd yn Nant Peris ac wedyn Caernarfon.

Fe enillodd Gadair y Genedlaethol ddwywaith – ym Mro Dwyfor yn 1975 gyda’i awdl Yr Afon ac yn Abertawe yn 1982 gyda’i awdl Cilmeri.

Ei gamp ola’ oedd ennill rhes o wobrau yn Eisteddfod Bro Morgannwg 2012, gan gynnwys cywydd trawiadol.

Arlunydd

Yn ogystal â bod yn fardd roedd yn arlunydd medrus ac am flynyddoedd bu’n golygu a chyfrannu’n helaeth at y comic plant Hebog.

Yn ddiweddarach fe ddaeth yn enwog am fod yn Feuryn Talwrn y Beirdd ar y radio ac yn Feuryn Ymrysonfeydd y Genedlaethol pan oedd ei hiwmor sych, crafog yn ychwanegu at ei braffter beirniadol.

Roedd wedi diodde’ o iechyd wael ers blynyddoedd, gyda phroblemau mawr ar ei ysgyfaint a bu farw ar ôl salwch byr.

Roedd yn 70 oed.

‘Cyfraniad enfawr’

Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Rhaglenni Radio Cymru: “Trist iawn oedd clywed am golli un o leisiau unigryw a dawnus Cymru y Prifardd Gerallt Lloyd Owen.

“Fe fu’n llais Y Talwrn ar Radio Cymru am 32 o flynyddoedd. Fel y dywedodd e’i hun wrth roi’r gorau i bwyso a mesur gwaith y beirdd, fe fu’n Feuryn am hanner ei oes.

“Roedd ei gyfraniad i’r orsaf yn aruthrol, a’r beirdd a’r gwrandawyr fel ei gilydd yn elwa o’i sylwadau treiddgar, crafog a’i hiwmor parod. Fe wnaeth yn gwbwl siwr bod yna le canolog i farddoniaeth ar Radio Cymru ac mae’r cyfraniad enfawr hwnnw i’w deimlo fyth.”