David Jones
Mae’r Ysgrifennydd Gwladol David Jones wedi colli ei swydd yng nghabinet David Cameron yn sgil yr ad-drefnu.

Ar ol llai na dwy flynedd yn y swydd, fe fydd Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd yn dychwelyd i’r meinciau cefn.

Roedd wedi olynu Cheryl Gillan yn Swyddfa Cymru ym mis Medi 2012.

Dywedodd David Jones: “Mae’r Prif Weinidog yn ad-drefnu ei dîm ac mae wedi gofyn i fi gamu o’r swydd. Rwy’n deall ei benderfyniad yn llwyr.”

Mae Ken Clarke hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol.

Mae disgwyl i David Cameron benodi rhagor o ferched i swyddi allweddol wrth iddo ad-drefnu ei gabinet.

‘Newid agwedd’

Yn gynharach, wrth ymateb i adroddiadau y gallai David Jones gael ei olynu gan Stephen Crabb, dywedodd Carwyn Jones y byddai’n croesawu newid mewn agwedd gan Swyddfa Cymru, er mwyn gwella perthynas Cymru â San Steffan.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae e (Stephen Crabb) yn berson y ry’n ni’n teimlo y gallen ni wneud busnes gyda.”

Ychwanegodd Carwyn Jones: “Mi fydd yna anghytuno, dyna ydi natur democratiaeth a gwleidyddiaeth.

“Ond rwy’n gobeithio y bydd y berthynas yn gwella beth bynnag sy’n digwydd yn y misoedd nesaf.”

‘Agwedd’

Gofynnwyd i Carwyn Jones os byddai’r berthynas rhwng Cymru a San Steffan yn haws os byddai Ysgrifennydd Gwladol gwahanol:

“Mae hi’n dibynnu ar bwy sydd yn dod mewn a’u golwg nhw ar ddatganoli. Dw i ddim yn gwybod os bydd person newydd yn Swyddfa Cymru,” meddai.

“Mi fyswn i’n croesawu newid mewn agwedd. Mae hi’n bwysig, lle’r ry’n ni’n gallu, ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd.

“Mae yna wahaniaethau gwleidyddol, ond dw i ddim yn meddwl mai mater o bersonél ydyw, mater o natur y berthynas ydi hi. O bosib byddai newid personél yn newid hynny. Mae hi’n anodd iawn rhagweld y pethau yma.”