Dewi Pws adeg Ras yr Iaith
Mae un ar ddeg o gerddorion Cymru, gan gynnwys rhai o gyn-aelodau’r band Edward H Dafis, wedi galw am ddileu targedau tai cenedlaethol er mwyn cryfhau’r Gymraeg yn y gymuned.

Ymysg y cerddorion sydd yn cefnogi’r ymgyrch, yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae Dewi Pws Morris, Cleif Harpwood, Hefin Elis a Linda ‘Plethyn’ Griffiths.

Fe lofnododd y cerddorion ddatganiad Cymdeithas yr Iaith sy’n galw am ganiatáu codi tai ar sail anghenion lleol yn hytrach na thargedau tai sy’n seiliedig ar amcangyfrifon cenedlaethol am faint y boblogaeth yn y dyfodol.

Yn ôl y mudiad iaith, byddai hyn yn sicrhau bod awdurdodau’n ystyried effaith datblygiadau ar y Gymraeg ac yn rhoi grym cyfreithiol i gynghorwyr dderbyn neu wrthod datblygiadau ar sail eu heffaith ar y Gymraeg.

Neges Dewi Pws

“Dw i’n cytuno cant y cant gyda’r Gymdeithas am hyn,” meddai Dewi Pws. “Mae angen newid yr holl system gynllunio fel bod yr iaith yn gallu tyfu fel iaith gymunedol yn lle crebachu.

“Does dim pwynt cael rhyw ffics arwynebol heb fynd at wraidd y broblem, sef system gynllunio sy’n gwybod pris popeth ond gwerth dim byd.

“Anghenion cymunedau lleol ddylai fod yn y ddeddf newydd, dim system sy’n gwasanaethu pobl gyfoethog o’r tu fas. Mae’n amser i’r hen Carwyn [Jones, y Prif Weinidog] ddeffro o’i drwmgwsg.”

Ymprydio a chynadledda

Daw’r newyddion wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Bil drafft sydd, meddai’r Gymdeithas, heb yr gyfeiriad at y Gymraeg.

Yr wythnos ddiwethaf, fe ymprydiodd dros ugain o aelodau y mudiad iaith dros y newidiadau i’r ddeddfwriaeth.

Fe gynhaliodd Cymdeithas yr Iaith Gynhadledd Weithredol yn ddiweddar hefyd i drafod rhai o’u pryderon i’r ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad, gan gynnwys trafodaeth am ddiffygion y Bil Cynllunio.

Bydd y mudiad yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus yn trafod ei chynigion cynllunio ar ei Fil Cynllunio drafft ac yn gwahodd sylwadau arno tan ddiwedd yr Eisteddfod Genedlaethol.

Llofnodion y datganiad – Rhys Roberts, Caernarfon; Cleif Harpwood, Baglan, Porth Talbot; Hefin Elis, Caernarfon; Pam Davies, Efailwen; Wyn Jones, Aberteifi; Linda Griffiths, Penbontrhydybeddau; Dewi Pws Morris, Tresaith; Handel Thomas, Penparc; Dic Martin, Beulah; Delyth Wyn, Blaenporth; Hywel Gealy Rees, Tresaith