Mae bron i 80% o’r rheiny a ymatebodd i bôl piniwn golwg yn anghytuno â barn Dafydd Elis-Thomas fod gormod o bwyslais yn cael ei roi ar ganlyniadau’r Cyfrifiad.

Fe awgrymodd yr Aelod Cynulliad y penwythnos diwethaf fod “gormod o ddarogan gwae” dros yr iaith Gymraeg, a bod canlyniadau’r Cyfrifiad yn 2011 yn amherthnasol i ddyfodol yr iaith.

Mae amryw o ymgyrchwyr iaith gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn defnyddio ffigyrau’r Cyfrifiad, a ddangosodd gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, fel tystiolaeth bod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy dros yr iaith.

Ac yn ôl pôl piniwn golwg360, roedd 78% o bobl a bleidleisiodd yn anghytuno fod gormod o bwyslais yn cael ei roi ar ganlyniadau’r Cyfrifiad.

Dywedodd 18% eu bod nhw’n cytuno â safbwynt Dafydd Elis-Thomas, gyda 4% ddim yn siŵr.

Yr wythnos diwethaf fe gynhaliodd Cymdeithas yr Iaith Gynhadledd Weithredol, ymateb medden nhw i’r diffyg gweithredu o du Llywodraeth Cymru yn sgil Cynhadledd Fawr y llynedd.

Ymysg y pynciau o dan sylw oedd ffigyrau mewnfudo’r Cyfrifiad, argymhellion i wella darpariaeth addysg yn y Gymraeg, a diffygion yn y Bil Cynllunio.

Gallwch ddarllen mwy am y Gynhadledd Fawr yn Golwg yr wythnos hon, gan gynnwys cyfweliadau fideo ar yr Ap, yn ogystal â darllen ein blog byw o’r digwyddiad.

Dadansoddiad Iolo Cheung

Mae canlyniad y pôl yn eithaf clir – mae’r rhan fwyaf o’r rheiny a bleidleisiodd o’r farn bod canlyniadau’r Cyfrifiad yn bwysig pan mae’n dod at y Gymraeg.

Yn sicr does dim modd arall sydd yn dod yn agos ati pan mae’n dod at gasglu data am siaradwyr yr iaith.

Yn ôl Dafydd Elis-Thomas, beth sy’n bwysig ydi nid y niferoedd, ond bod y rheiny sydd yn ei medru hi yn parhau i’w siarad.

Dangos symudiad poblogaeth mae’r Cyfrifiad, dim mwy, meddai’r Aelod Cynulliad.

Serch hynny, mae’n ymddangos fod y mwyafrif yn gweld bod gwersi pwysig angen eu dysgu o’r Cyfrifiad – wedi’r cwbl, boed y canrannau yn disgyn oherwydd patrymau mudo neu ddiffyg trosglwyddo’r iaith, disgyn y maen nhw.

Ac mae hynny’n bownd o gael effaith ar siaradwyr Cymraeg os yw’n parhau – wedi’r cwbl, mae’n ddigon rhesymol disgwyl po leiaf o siaradwyr Cymraeg sydd o’ch cwmpas, y lleiaf tebygol ydych chi i’w siarad yn rheolaidd.

Y neges felly, mae’n ymddangos o’r pôl, yw bod angen parhau i bwysleisio ffigyrau’r Cyfrifiad er mwyn dangos beth yw gwir sefyllfa’r Gymraeg.

Fel nododd rhai hefyd, roedd y cwestiwn a ofynnwyd yn tueddu tuag un ffordd – hynny yw, gofyn a oeddech chi’n cytuno â gosodiad neu beidio.

Mae astudiaethau polau piniwn wedi dangos bod pobl yn fwy tueddol o bleidleisio ‘Ie’ pan gaiff cwestiwn o’r math hwn ei ofyn – ac yn yr achos yma’n anffodus roedd hi ychydig yn lletchwith ei eirio mewn ffordd wahanol.

Felly mae’n bosib iawn fod y gefnogaeth i safbwynt Dafydd Elis-Thomas yn uwch nag y buasech chi’n disgwyl – ac felly bod hyd yn oed mwy na 78% yn anghytuno bod gormod o bwyslais ar y Cyfrifiad.

Canlyniadau

Oes gormod o bwyslais ar ganlyniadau’r Cyfrifiad pan mae’n dod at yr iaith Gymraeg?

Oes – 18.29%

Nac oes – 78.05%

Ddim yn siŵr – 3.66%