Bethan Gwanas
Mae trefnwyr Gŵyl Golwg wedi cyhoeddi manylion rhai o’r digwyddiadau yng ngŵyl gelfyddydau fwya’ newydd Cymru yn Llanbedr Pont Steffan ar benwythnos 12 – 14 Medi.

Dydd Sul, 14 Medi, fydd prif ddiwrnod y gweithgareddau, gyda llwyth o sgyrsiau llenyddol, trafodaethau digidol, stondinau, setiau cerddoriaeth a gweithgareddau plant.

Cyhoeddwyd heddiw mai Bethan Gwanas fydd yn traddodi Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis, a sefydlwyd ar gyfer yr ŵyl llynedd.

“Roedd gen i feddwl mawr o Islwyn Ffowc Elis” meddai Bethan Gwanas. “…fel dyn ac fel awdur, felly bydd traddodi araith er cof amdano yn fraint ac yn anrhydedd.”

Nodi 10 mlynedd nofel fawr

Bydd sesiynau’r Stafell Sgwrsio eleni hefyd yn cynnwys sgwrs arbennig rhwng y cyflwynydd radio, Richard Rees, a’r grŵp o Aberteifi, Ail Symudiad, wrth i hunangofiant Richard a chyfrol Ail Symudiad gael eu cyhoeddi dros yr haf.

Yn ogystal, bydd Caryl Lewis yn cymryd rhan mewn sesiwn arbennig i nodi 10 mlynedd ers cyhoeddi ei chyfrol Martha, Jac a Sianco – un o nofelau Cymraeg mwyaf y mileniwm.

Cyhoeddwyd hefyd enwau rhai o’r artistiaid cerddorol fydd yn perfformio yn yr ŵyl eleni. Ymysg artistiaid ‘Y Babell Roc’ bydd y gantores boblogaidd o Sir Benfro, Lowri Evans, a’r canwr Gwilym Rhys Bowen (Y Bandana a Plu).

Ar ôl cymryd rhan yn un o sesiynau llenyddol yr ŵyl llynedd, bydd Manon Steffan Ros yn dychwelyd eto ond y tro yma gyda’i phrosiect cerddorol, Blodau Gwylltion.

“Dim ond nifer fach o’r sesiynau sydd wedi eu cyhoeddi heddiw, mae llawer iawn i ddilyn dros yr wythnosau nesaf,” meddai un o’r trefnwyr, Lowri Steffan.

“Mae nifer o sesiynau llenyddol a cherddorol gwych i’w hychwanegu, yn ogystal â’r gweithgareddau plant, manylion cyngerdd Gŵyl Golwg ac arlwy noson gomedi Golwg Go Whith fydd yn digwydd eto eleni.”

Mae modd dilyn newyddion diweddaraf yr ŵyl ar y wefan www.gwylgolwg.com a thrwy ddilyn y cyfrif Twitter @GwylGolwg.