Eisteddfod Llangollen
I ddathlu cychwyn Eisteddfod Llangollen 2014, mae blwch chwilio Bing – sy’n cael ei ddefnyddio gan tua 13 miliwn o bobol – yn dangos llun o Gastell Dinas Brân sy’n sefyll uwchben tref Llangollen.

Mae’r Eisteddfod, sy’n ddathliad rhyngwladol o gerddoriaeth, celf a dawns, yn cychwyn heddiw tan 12 Gorffennaf. Eleni fydd y 68ain tro iddi gael ei chynnal.

Cafodd yr ŵyl ei lansio ym Mhafiliwn Llangollen neithiwr, gyda pherfformiad o sioe gerdd Sondheim, Sweeney Todd, oedd y cynnwys y cantorion byd-enwog Bryn Terfel, Shan Cothi a Wynne Evans ynghyd a chast o bobol ifanc.

Dywedodd cyfarwyddwr cerddorol yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths:

“Mae’n freuddwyd ein bod wedi cyflawni rhywbeth mor anhygoel.”

Mae disgwyl i’r llun o gastell Llangollen ar wefan Microsoft, Bing, gael ei weld gan tua 12.7 miliwn o bobol ledled Prydain heddiw.