Alun Davies
Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Alun Davies wedi cael ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru.

Daeth y cyhoeddiad gan Carwyn Jones bore ma.

Yn y datganiad dywedodd y Prif Weinidog bod Alun Davies wedi gofyn i weision sifil am wybodaeth breifat ynglŷn â sefyllfa ariannol nifer o Aelodau Cynulliad. Maen nhw’n ymwneud a thaliadau CAP i’r unigolion.

Dywedodd Carwyn Jones bod y cais am wybodaeth yn “amhriodol” a bod y ffaith ei fod wedi wneud y cais yn y lle cyntaf yn “annerbyniol”.

Roedd Alun  Davies wedi gofyn am fanylion taliadau CAP i Arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Kirsty Williams.

Roedd hefyd wedi gofyn am wybodaeth ynglŷn â thaliadau i’r AC Ceidwadol, Antoinette Sandbach, William Powell o’r Democratiaid Rhyddfrydol ac AC Plaid Cymru Llyr Gryffudd.

Daw’r newydd ddyddiau’n unig ar ôl i’r gwrthbleidiau alw arno i ymddiswyddo ar ôl iddo dorri’r Cod Gweinidogol drwy ymyrryd ym mhroses gynllunio trac rasio ym Mlaenau Gwent.

Ar y pryd fe ymddiheurodd Alun Davies i’r Siambr, gyda Carwyn Jones yn ei amddiffyn.

Ond nawr mae’n ymddangos ei fod wedi’i ddiswyddo am fater yn ymwneud â thaliadau CAP,  arian sydd yn dod o Ewrop ar gyfer y diwydiant amaeth.

Datganiad Carwyn Jones

Yn y datganiad, dywedodd y Prif Weinidog: “Yn y dyddiau diwethaf mae negeseuon rhwng y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd a gweision sifil yn ei adran wedi dod i fy sylw.

“Mae’r e-byst yn dangos fod y Gweinidog wedi gofyn i weision sifil roi gwybodaeth breifat am ddiddordebau ariannol nifer o Aelodau’r Siambr hwn.

“Mae’r rhain yn ymwneud â thaliadau CAP sydd wedi’u gwneud i’r unigolion hyn.

“Rwyf yn credu fod yr ymholiadau yma yn anaddas ac mae’r ffaith eu bod wedi cael eu gwneud o gwbl yn annerbyniol i mi fel Prif Weinidog.

“O ganlyniad i hynny, rwyf wedi gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd adael y Llywodraeth.

“Fe wnes i’r penderfyniad yma â mawr siom a hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad i’r cyfraniad y mae Alun Davies, heb os, wedi’i wneud i waith y llywodraeth yn ystod ei gyfnod yn y swydd.”

Mae Carwyn Jones wedi cyhoeddi y prynhawn ma y bydd Edwina Hart yn cael ei phenodi’n Weinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yn ogystal â’i chyfrifoldebau presennol. Fe fydd hi’n cael ei chynorthwyo gan Rebecca Evans sydd wedi ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog Amaeth a Physgodfeydd.

John Griffiths fydd yn gyfrifol am bolisi amaethyddol.

Ymateb Llyr Gruffydd

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gymunedau Cynaliadwy, Ynni a Bwyd Llyr Gruffydd:

“Mae’r cyhoedd yn ymddiried yn ein haelodau cabinet etholedig, ac y mae’n amlwg fod Alun Davies wedi dibrisio’r ymddiriedaeth honno.

“Dylai’r Prif Weinidog fod wedi cymryd y camau hyn yr wythnos ddiwethaf pan ganfu’r adroddiad annibynnol i ymddygiad Alun Davies ei fod wedi torri’r Côd Gweinidogol ar fwy nac un achlysur.”

Wrth ymateb i’r ffaith fod Alun Davies wedi gofyn yn benodol am daliadau fferm unigol Llyr Gruffydd, dywedodd: “Petai Alun Davies wedi bod yn ddigon cwrtais i ofyn i mi yn uniongyrchol a oeddwn yn derbyn y taliad fferm unigol, fe fuaswn wedi ei ateb yn syth a dweud nad wyf.

“Mae’n gywilydd mawr i bobl Cymru fod Alun Davies wedi gweithredu yn amhriodol fel Gweinidog, ac y mae’n iawn fod y Prif Weinidog o’r diwedd wedi cymryd y camau hyn.”

Ymgyrch ‘warthus’

Ychwanegodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru fod gweithredoedd Alun Davies fel gweinidog yn “erchyll” ac yn “gwbl annerbyniol i unrhyw un sy’n rhan o’r swyddfa gyhoeddus.”

“Ac mae’r ffaith ei fod wedi dechrau ymgyrch yn erbyn y rhai sy’n meiddio ei gwestiynu yn warthus.

“Mae ei ymddygiad wedi gadael y Prif Weinidog heb ddewis arall ond ei ddiswyddo, ond mae’r ffaith na chafodd hyn ei wneud yn gynt yn codi cwestiynau am farn y Prif Weinidog.

“Mae’r sefyllfa wedi bod yn chwerthinllyd o’r cychwyn, ac mae hyn yn bennod gywilyddus arall i  Lywodraeth Llafur.”

Ymatebion

Dyma ragor o ymatebion sy’n ymddangos ar wefan Trydar:

Pippa Bartolotti ‏@pippabartolotti – Arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru

Alun Davies wedi cael y sac. Roedd yn un o’r Gweinidogion Amgylchedd gorau.

Simon Thomas ‏@SimonThomasAC – Aelod Cynulliad Plaid Cymru ar gyfer y Canolbarth a’r Gorllewin

Nawr ein bob yn gwybod fod Alun Davies wedi dilyn e-byst hefo pwysau ar lafar, allwn ni gredu nad oedd wedi dylanwadu cais Cyfoeth Naturiol Cymru?

Greg Philip Thomas ‏@GeographyGreg – Tiwtor Amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth

Newyddion da i ffermwyr Cymru am Alun Davies. Fe fydd hi’n ddiddorol gweld y gwahaniaeth fydd y gweinidog newydd yn ei wneud.