Flwyddyn wedi i’r Cynulliad basio newid yn y gyfraith ar roi organau, mae Cymru’n nodi Wythnos Genedlaethol Trawsblannu’r wythnos hon.

Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y wlad i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r system rhoi organau newydd a fydd yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2015.

Mae’r ddeddf newydd yn golygu y bydd gan y llywodraeth yr hawl i dybio bod pobol eisiau rhoi organau wedi iddyn nhw farw, oni bai bod unigolyn yn dweud yn wahanol.

Digwyddiadau

Bob dydd yn ystod yr wythnos hon, bydd digwyddiadau ‘Amser i Siarad’ yn cael eu cynnal mewn dros hanner cant o wahanol leoliadau ledled Cymru.

Cymysgedd o gyflwyniadau grŵp ffurfiol a sesiynau galw heibio mewn archfarchnadoedd, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, gweithleoedd a swyddfeydd cyngor fydd y digwyddiadau hyn – sy’n cynnwys agor gardd goffa newydd yn Aberystwyth i gofio pobol sydd wedi achub bywydau trwy roi organau.

Bydd ‘pencampwr rhoi organau’ ac aelod o dîm rhoi organau Llywodraeth Cymru yn bresennol ym mhob digwyddiad i ateb cwestiynau ynglŷn â rhoi organau a rhoi gwybodaeth am yr hyn a elwir yn ‘Ganiatâd Tybiedig’.

Ac fe fydd y ddiweddaraf mewn cyfres o hysbysebion sy’n pwysleisio pwysigrwydd trafod dymuniadau personol ynglŷn â rhoi organau yn cael eu darlledu ar y teledu, y radio ac ar ffurfiau digidol.

Hyder

Dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog iechyd: “Rwy’n falch o weld cymaint o ddigwyddiadau cyhoeddus yn cael eu cynnal ym mhob ardal bwrdd iechyd a gobeithio y byddan nhw’n help i ledu’r gair am y gyfraith newydd a beth y mae’n ei olygu i bob un ohonom yng Nghymru.

“Eisoes mae ’na lefel uchel o ymwybyddiaeth ymysg grwpiau staff y Gwasanaeth Iechyd ac mae ’na hefyd hyder y bydd y gyfraith yn gwella cyfraddau rhoi organau.

“Mae’n dangos po fwyaf y mae staff yn gwybod am y ddeddfwriaeth, mwyaf y gefnogaeth i’r newidiadau; mae hefyd yn dda bod staff yn cael eu cynnwys yn uniongyrchol yn y broses er mwyn iddyn nhw wybod am y newidiadau a’u cefnogi.”