Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau i wynebu ‘heriau sylfaenol’ a ‘sefyllfa ariannol ansicr’ yn ôl adroddiad ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

Roedd y ddau gorff yn adolygu effeithiolrwydd y bwrdd rheoli a’i allu i gynllunio ar gyfer moderneiddio ac ad-drefnu gwasanaethau clinigol ledled y gogledd.

Yn ôl yr adroddiad: ‘…mae nifer o’r heriau allweddol a nodwyd y llynedd yn parhau ac mae gan y Bwrdd Iechyd ragor o waith i’w wneud cyn y gellir ystyried bod ei drefniadau llywodraethu a rheoli yn gwbl addas at y diben’.

Meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: “Mae nifer o heriau i’r Bwrdd Iechyd eu goresgyn a chyda Phrif Weithredwr bellach yn ei swydd, bydd rhaid i’r gwaith o ymdrin â’r heriau allweddol hyn gyflymu’n benodol i fynd i’r afael â’r angen i wneud cynnydd brys i sicrhau model o wasanaethau ar gyfer Gogledd Cymru sy’n gynaliadwy yn glinigol ac yn ariannol.”

Pryderon yn parhau

Mae Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yn pryderu “bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dal i wynebu heriau sylweddol o ran ffurf ei wasanaethau clinigol yn y dyfodol a’i sefyllfa ariannol ansicr”.

Ychwanegodd yr Aelod Cynulliad Darren Millar: “Er bod adroddiad ar y cyd heddiw gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dangos bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud o ran ymdrin â’r methiannau a amlygwyd y llynedd, rydym yn dal i gredu bod gan yr uwch-dîm rheoli dasg enfawr o’u blaen o hyd er mwyn adfer hyder y cyhoedd.

“Canfu ein hymchwiliad y llynedd diffygion difrifol o ran llywodraethu a gweithdrefnau atebolrwydd y sefydliad.

“Byddwn yn gofyn i gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am yr heriau hyn a’u cynnydd o ran gweithredu ein hargymhellion pan fyddant yn ymddangos gerbron y Pwyllgor ddydd Mawrth nesaf.”