Nid yw hanner biliwn o bunnau sydd wedi ei ddynodi ar gyfer ysgolion Cymru yn cyrraedd yr ystafell ddosbarth.

Dyna honiad y Ceidwadwyr Cymreig ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ffigyrau cyllid 2014-15 y cynghorau sir ar gyfer ysgolion.

Maen nhw’n dweud bod 20% o’r £2.5 biliwn ar gyfer addysg yn cael ei wario ar fiwrocratiaeth yn swyddfeydd y cynghorau sir.

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru mae’r ganran o’r arian sy’n cyrraedd y dosbarth wedi cynyddu o 76% i 83%.

Anghyfartaledd

Ar gyfartaledd, mae 83% o’r cyllid yn cyrraedd dosbarthiadau ysgolion Cymru – ond yn ôl y Ceidwadwyr mae’r ffigwr hwnnw’n gallu bod cyn ised â 77% mewn rhai cynghorau sir.

Hefyd mae llefarydd y blaid ar Addysg yn honni bod £1,000 yn fwy yn cael ei wario ar ddisgybl yng Ngheredigion o’i gymharu â Bro Morgannwg neu Gasnewydd.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn “dosbarthu’r arian y mae ysgolion ei angen er mwyn llwyddo” ac wedi cynyddu’r gwariant i ddosbarthiadau o 76% yn 2011 i 83% eleni.

Gwario ar wthio papur

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am roi’r arian – £2.5 biliwn – yn uniongyrchol i ysgolion er mwyn osgoi “gwastraffu arian yn ddiangen” o fewn y cynghorau sir.

“Mae £1,000 ar gyfer bob disgybl yn cael ei lyncu gan awdurdodau lleol a biwrocratiaeth mewn rhai ardaloedd,” meddai Anglea Burns, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Addysg.

“Mae’r £2.5 biliwn y flwyddyn yn swm anferth fyddai’n gallu cael ei ddefnyddio fel buddsoddiad gwerthfawr mewn adnoddau dysgu rhyngweithiol, llyfrau a swyddi dysgu newydd.

“Mewn cyfnod ble mae arian cyhoeddus yn brin, mae’n hanfodol bod bob ceiniog sydd ar gael yn mynd i le mae o’i fod, er mwyn rhoi cyfle gorau i bobol ifanc mewn bywyd.

Ymateb y Llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran y Gweinidog Addysg Huw Lewis: “Yn 2012, fe wnaeth Llywodraeth Cymru addewid i roi mwy o arian i ddosbarthiadau ysgolion a dyma pan fod y ffigwr wedi cynyddu o 76% yn 2011 i 83% eleni.

“Yn syml, nid yw’r Ceidwadwyr Cymreig yn hoffi’r ffaith ein bod ni’n dosbarthu’r arian y mae ein hysgolion ei angen er mwyn llwyddo. Mae cynigion y Torïaid yn cynnwys torri 12% o gyllid yr ysgolion, fyddai’n golygu £300 miliwn yn llai i ddosbarthiadau.

“Ar yr un adeg, maen nhw eisiau agor Ysgolion Gramadeg – dydan ni heb glywed sut fydden nhw’n talu am hyn eto.”