Logo Nato
Mae NATO wedi dadorchuddio’r logo ar gyfer yr Uwch Gynhadledd yng Nghasnewydd ym mis Medi.

Cafodd y logo ei gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Tramor William Hague ac mae’n cynnwys llun o gastell, draig goch, cwlwm Celtaidd a Phont Gludo Casnewydd.

Dywedodd y trefnwyr bod y logo yn cynrychioli hanes a diwylliant Cymru “mewn ffordd fodern.”

Bydd rhai o arweinwyr y byd yn cwrdd yng ngwesty’r Celtic Manor ar gyfer y gynhadledd ar 4 a 5 Medi, gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf erioed.

Mewn cyfarfod ym Mrwsel neithiwr, fe gafodd yr agenda ar gyfer y gynhadledd ei benderfynu gan weinidogion tramor.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, eisoes wedi dweud ei fod yn benderfynol o wneud y mwyaf o’r cyhoeddusrwydd rhyngwladol fydd yn cael ei roi i Gymru yn ystod cynhadledd y sefydliad.

Ond mae rhai eisoes wedi beirniadu’r logo, gan gwestiynu pam nad yw enw Casnewydd wedi cael ei chynnwys arni er bod logos pob cynhadledd ers 2006 wedi cynnwys enw’r ddinas sydd wedi’i chynnal arni, a’i bod yn parhau i gael ei marchnata fel NATO Wales.

Trydarodd Kevin Ward, golygydd papur newydd y South Wales Argus yn fuan wedi cyhoeddiad y logo, gan ddweud: “Wel mae hwnna’n blydi gwarthus. A dim sôn am Gasnewydd. #NATONewport”.