Y Celtic Manor yng Nghasnewydd
Cafodd yr agenda ar gyfer Uwch Gynhadledd NATO yng Nghasnewydd ei benderfynu neithiwr.

Daeth gweinidogion tramor y prif wledydd at ei gilydd mewn cyfarfod arbennig i drafod y prif faterion ym Mrwsel nos Fawrth.

Bydd rhai o arweinwyr y byd yn cwrdd yng ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd ddechrau mis Medi, ac fe fydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf erioed.

Bydd logo’r Uwch Gynhadledd yn cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach heddiw.

Roedd Gweinidog Tramor yr Unol Daleithiau, John Kerry yn y cyfarfod neithiwr.

Ar frig yr agenda fydd y sefyllfa yn Irac ac Afghanistan, yn ogystal â’r trafferthion diweddaraf yn yr Wcráin.

Eisoes yr wythnos hon, cyhoeddodd Heddlu Gwent eu bod nhw’n disgwyl oedi hir i deithwyr ar draws Casnewydd pan fydd yr Uwch Gynhadledd yn cael ei chynnal.

Fe fydd mwy na 150 o arweinwyr a’u staff yn cael eu gwarchod gan yr heddlu yn ystod yr Uwch Gynhadledd, ac fe fydd newyddiadurwyr o bedwar ban y byd yn teithio i Gymru ar gyfer y digwyddiad.