Lisa Gwilym
Bydd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn cael ei chyhoeddi heno.

Mae 10 o albymau ar y rhestr, ac fe fydd yr enillydd yn cael ei wobrwyo yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ymhen chwe wythnos.

Mae unrhyw albwm gafodd ei gyhoeddi rhwng 1 Mawrth 2013 a 28 Chwefror eleni’n gymwys ar gyfer y wobr.

Rheithgor o arbenigwyr yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru sydd wedi llunio’r rhestr fer.

Y rhestr fer yn llawn yw:

  • Alaw – Melody
  • Bromas – Byr Dymor (Rasp)
  • Candelas
  • DnA – Adnabod (Fflach Tradd)
  • Gildas – Sgwennu Stori (Sbrigyn Ymborth)
  • Gwenan Gibbard – Cerdd Dannau (Sain)
  • Llwybr Llaethog – Dub Cymraeg (Neud Nid Deud)
  • Plu (Sbrigyn Ymborth)
  • The Gentle Good – Y Bardd Anfarwol (Bubblewrap Records)
  • Yr Ods – Llithro (Copa)

Yn dilyn cyhoeddi’r rhestr fer, dywedodd un o drefnwyr y wobr, Guto Brychan fod y wobr yn rhoi “sylw haeddiannol i gerddoriaeth sydd wedi’i recordio neu’i chreu’n ddiweddar”.

Dywedodd fod y wobr yn dathlu “pob math o gerddoriaeth sy’n cael ei chreu yn y Gymraeg” ac nad oes “unrhyw wobr arall lle y byddai cerddoriaeth ‘dub’ ar yr un rhestr fer ag albwm cerdd dant!”

Ychwanegodd: “Bu’r drafodaeth rhwng y rheithgor gwreiddiol yn hynod ddiddorol gyda nifer fawr o albymau o bob math yn cael eu trafod, gan gwmpasu pob math o steil a genre cerddorol, a chredaf bod y rhestr fer a ryddheir heno yn adlewyrchu’r drafodaeth hon.”

Bydd y beirniaid yn mynd ati i ddewis yr enillydd terfynol yn ystod wythnos y Brifwyl, gyda’r wobr yn cael ei rhoi yng Nghaffi Maes B ar nos Iau’r Steddfod.