Sen Segur
Sen Segur a Candelas oedd uchafbwyntiau Gŵyl Eryri’r penwythnos diwethaf.

Cynhelir yr ŵyl yn Llanrwst gyda llu o grwpiau ac artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru’n perfformio.

Ynghyd a Sen Segur a Candelas, fe berfformiodd Kizzy Crawford, sydd wedi’i dewis i chwarae yn Glastonbury yr haf hwn, y grŵp roc Forever Kings ac enillydd rhaglen deledu ‘The Voice’, Leanne Mitchell.

Wedi’i noddi gan wahanol fudiadau a chwmnïau o’r ardal, syniad yr ŵyl yw denu pobl i fwynhau penwythnos o gerddoriaeth.

Yn ogystal â cherddoriaeth, roedd yna hefyd marchnad llawn stondinau yn amrywio o fwyd i ffedogau Cymreig.

Ymateb anhygoel

Roedd llwyddiant yr ŵyl wedi synnu’r trefnwyr.

“Roedd yr ymateb yn anhygoel wrth ystyried mai dyma’r ŵyl gyntaf o’i fath yn yr ardal,” meddai un o drefnwyr yr ŵyl, Anna Openshaw.

“Daeth y syniad o holiadur gan Llanrwst Vision lle oedd pobl yn gofyn am fwy o ddigwyddiadau yn yr ardal gan fod ymwelwyr yn gyrru heibio Llanrwst heb stopio i werthfawrogi’r ardal. Yr ŵyl yw ein ffordd ni o hybu Llanrwst.”

Mae llwyddiant yr ŵyl wedi ysgogi’r trefnwyr i gynnal yr ŵyl yn flynyddol.

“Rydym yn bendant o gynnal yr ŵyl yn flynyddol. Hoffwn ni i’r ŵyl sefydlu ei hun ar galendr y gwyliau haf.”