Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Feirionnydd, Glyn Davies wedi dweud ei fod yn “anghytuno’n llwyr” â’r drefn newydd o roi organau sy’n cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru’r flwyddyn nesaf.

O dan y drefn newydd, mi fydd yn cael ei gymryd yn ganiataol bod unigolion yn rhoi caniatâd i roi eu horganau ar ôl iddyn nhw farw, oni bai eu bod yn nodi eu bod yn gwrthwynebu hynny.

Ond mae Glyn Davies wedi codi amheuaeth a fydd y drefn newydd yn cynyddu nifer yr organau fydd ar gael i’w trawsblannu.

Bydd y drefn newydd yn cael ei chyflwyno fis Rhagfyr nesaf.

‘Dim tystiolaeth’

Wrth drafod y mater y bore ma, dywedodd: “Rwy’n anghytuno’n llwyr â’r hyn mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud yn nhermau newid y gyfraith a chyflwyno caniatâd tybiedig.

“Yr hyn sydd wedi fy ngyrru i erioed yw’r dystiolaeth, dydw i erioed wedi cael fy nylanwadu gan y dadleuon moesegol o gwbl.

“Rwy wedi fy nylanwadu’n unig gan y dystiolaeth sy’n dangos i mi sut y byddwn ni’n cael y nifer fwyaf o organau.

“Rwy’n credu’n gryf na fydd yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud yn darparu  mwy o organau o gwbl.”

Ar hyn o bryd, traean yn unig o boblogaeth gwledydd Prydain sydd ar y rhestr i roi organau, ond dim ond 60% o’r rheini sydd wedi rhoi gwybod i’w teuluoedd eu bod nhw wedi cofrestru.