Ymhen tair wythnos, fe fydd mab ac ŵyr y cricedwr Bernard Hedges yn mynd ati i gerdded 1050 o filltiroedd o amgylch ffin Cymru.

Bu farw Bernard Hedges ym mis Chwefror, ac fe ddywedodd ei fab Stephen wrth Golwg360 fod y teulu’n awyddus i drefnu gweithgaredd er cof amdano.

Bydd yr elw’n cael ei roi i Griced Cymru, ac maen nhw’n gobeithio codi hyd at £10,000 ar gyfer criced i blant ar lawr gwlad.

Bydd Stephen a’i fab, Ellis yn dechrau’r daith yn Y Mwmbwls ar Orffennaf 5, ac maen nhw’n gobeithio dychwelyd i’r Mwmbwls erbyn Awst 29.

Meddai: “Pan fu farw ’nhad yn gynharach eleni, ro’n i’n teimlo ’mod i am wneud rhywbeth er cof amdano fe.

“Dwi’n dipyn o gerddwr ac ro’n i’n ymwybodol o’r her o gerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir.

“Gobeithio y galla i a’r mab wneud rhywbeth y byddai Dad yn falch ohono fe.”

Bernard Hedges

Pedair oed yn unig oedd Stephen Hedges pan ddaeth gyrfa ei dad fel cricedwr i ben, ond mae’n dweud ei fod e a’r teulu yn falch iawn o’r hyn wnaeth e ei gyflawni.

“Er ’mod i ddim wir yn ei gofio’n chwarae i Forgannwg, un o’r atgofion pennaf sydd gyda fi yw cael mynd gyda Dad i wylio gemau fel bachgen bach.

“Un ohonyn nhw oedd gêm dysteb Alan Jones, lle ces i salad ham gyda’r chwaraewr rygbi enwog Barry John!”

Bron hanner can mlynedd wedi ei ymddeoliad, mae’n seithfed ymhlith prif sgorwyr Morgannwg ac mae’n un o chwech o gricedwyr Morgannwg sydd wedi sgorio 2,000 o rediadau mewn tymor.

Ond ei gyflawniad mwyaf, efallai, oedd sgorio’r canred undydd cyntaf i Forgannwg, a hynny yn erbyn Gwlad yr Haf yn 1963.

“Fel teulu, roedd gyda ni fedal Dad o’r gêm honno, sydd bellach wedi’i chadw yn yr Amgueddfa yn Stadiwm Swalec.

“Roedd Dad yn ganolog iawn i ysbryd y sir ac fel teulu – roedd e’n un o wyth o blant – ry’n ni i gyd yn awyddus i gael cyhoeddusrwydd i ddyn diymhongar iawn.”

Y daith

Bydd Stephen ac Ellis yn dechrau ar eu taith o gaffi Tram’s Diner yn Y Mwmbwls ar Orffennaf 5, ac mae clybiau criced ledled Cymru wedi bod yn cynnig llety iddyn nhw ar hyd y daith.

“Ar hyn o bryd, mae yna fwlch lle mae angen llety arnon ni, o Lansteffan i rannau o Sir Benfro, yn enwedig Solfach ac Aberdaugleddau.

“Bydden ni’n ddiolchgar iawn i unrhyw un sy’n fodlon rhoi to uwch ein pennau ni am noson!”

Mae’r paratoi ar gyfer y daith wedi hen ddechrau, ac mae’r ymarfer wedi cynnwys teithiau cerdded yn ardal Clawdd Offa.

Ychwanegodd: “Dwi wedi gwneud tipyn o gerdded o’r blaen ond fe fydd e’n brofiad newydd i Ellis.

“Mae e’n 20 oed ac yn ifanc felly ddylai hi ddim bod yn broblem iddo fe.

“Dw i, ar y llaw arall, yn dathlu ’mhenblwydd yn 50 tra byddwn ni’n cerdded!”

Sut fydd Stephen ac Ellis yn teimlo erbyn diwedd y daith, tybed?

“Dwi’n siŵr y byddwn ni’n dathlu gyda Knickerbocker Glory yn Joe’s pan ddown ni nôl!”

Mae manylion y daith ar y dudalen Facebook, ac mae modd cyfrannu i’r achos trwy’r dudalen Justgiving.

Gallwch ddilyn hynt a helynt y daith ar y dudalen Twitter

Stori: Alun Rhys Chivers