Bydd Carwyn Jones heddiw’n gwneud datganiad yn y Senedd ar bolisi’r llywodraeth ar yr iaith Gymraeg.

Nid oes manylion hyd yma am gynnwys y cyhoeddiad ond dywedodd Carwyn Jones y bydd “yna gig yn y datganiad ei hunan a fydd yn dangos ffordd glir a manwl ynglŷn â’r iaith Gymraeg.”

Nid yw’n addo y bydd y datganiad yn cynnwys digon i foddhau rhai beirniaid sydd wedi ei gyhuddo o beidio gwneud digon dros y Gymraeg.

“Mae hi’n anodd gwybod, gawn ni weld,” meddai Carwyn Jones, sydd yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg o fewn ei lywodraeth.


Pebyll Cymdeithas yr Iaith y tu allan i'r Senedd
Dim momentwm?

Wythnos ddiwethaf dywedodd Aelod Cynulliad a fu’n weinidog dros y Gymraeg yn y llywodraeth, Alun Ffred Jones, nad yw’r llywodraeth bresennol wedi gwneud digon dros yr iaith, gan ddweud nad oes “teimlad o fomentwm nac o frwdfrydedd” ganddi wrth weithredu.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn cynnal gwylnos y tu allan i’r Senedd yn arwain at ddatganiad Carwyn Jones heddiw, flwyddyn ers i’r Llywodraeth gynnal ymgynghoriad Y Gynhadledd Fawr mewn ymateb i ffigurau Cyfrifiad 2011 oedd yn dangos cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith byddan nhw’n defnyddio eu chwe phrif alwad polisi – sy’n cynnwys addysg Gymraeg i bawb, tegwch ariannol i’r Gymraeg a threfn gynllunio newydd – yn feini prawf ar gyfer asesu datganiad y Prif Weinidog brynhawn yma.