Waldo Williams
Mae aelodau a chyfeillion Blaenconin, Llandysilio wedi lansio menter newydd er cof am y bardd Waldo Williams ac am feirdd eraill sy’n hanu o’r ardal.
Y bwriad yw datblygu dwy ganolfan – y gyntaf yn Ganolfan Berfformio ar safle’r Capel a’r tir o’i gwmpas, a’r ail yn ganolfan i arddangos gwaith a hanes bywyd Waldo.
Yn ôl yr aelodau, bydd y ddwy Ganolfan yn gaffaeliad i’r ardal ac fe fydden nhw ar gael i ysgolion, Clybiau Ieuenctid a Chymdeithasau’r Henoed eu defnyddio.
‘Bywyd newydd’
Mae’r gwaith datblygu yn cael ei arwain gan y Cwmni Buddiant Cymunedol. Dywedodd Cadeirydd y cwmni, y Parchedig Huw George:
“Mae’n bwysig ein bod yn edrych yn ffyddiog i’r dyfodol gan ddwyn gobaith a bywyd newydd i’r Eglwys a’r gymuned o’i chwmpas.
”Mae’r prosiect yn un mawr i aelodau’r Eglwys ac mae’n tystio i’r weledigaeth eglur sydd ganddyn nhw.”
Bu farw’r cenedlaetholwr Waldo Williams yn 1971 ac mae wedi ei gladdu ym mynwent Blaenconin.