Nigel Farage yw Arweinydd UKIP
Bydd UKIP yn hawlio pum sedd a Llafur yn ei chael hi’n anodd ennill mwyafrif yn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2016, yn ôl y pôl piniwn diweddaraf sydd wedi’i gyhoeddi heddiw.

Yn ôl y pôl gan BBC Cymru/ICM, fe fyddai Llafur yn ennill 36% o’r bleidlais yn etholaethau’r Cynulliad, gyda Phlaid Cymru’n ail ar 24%.

Byddai’r Ceidwadwyr yn drydydd gyda 19%, UKIP ar 13% a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 9%.

Yn ôl dadansoddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Caerdydd byddai hyn yn rhoi 28 sedd i Lafur, dau yn is na’u cyfanswm presennol a thri yn brin o fwyafrif.

Byddai Plaid Cymru’n dychwelyd i fod yr ail blaid fwyaf yn y Cynulliad unwaith eto gyda 14 sedd, a’r Ceidwadwyr yn llithro i drydydd gydag 11.

Gallai UKIP ennill pum sedd, eu cyntaf erioed mewn etholiad Cynulliad, tra mai dim ond dwy sedd fyddai gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn weddill.

Byddai Llafur yn gwneud ychydig yn well ar y bleidlais ranbarthol yn ôl y pôl gyda 38%, o’i gymharu â 22% i Blaid Cymru, 21% i’r Ceidwadwyr, 10% i UKIP a 4% i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Canlyniadau cymysg

Wrth ymateb i’r canlyniadau ar ei flog, awgrymodd yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru mai Plaid Cymru ac UKIP fyddai wedi’u plesio fwyaf gan y canlyniadau.

“Mae’r canfyddiadau yn eithaf cyson â’r tuedd [yn ddiweddar] fod cefnogaeth Llafur yn y bleidlais etholaeth yn llithro yn is na’r lefelau roedd ganddyn nhw rhwng 2011 a 2013,” meddai Roger Scully.

“[Yn ogystal] hon yw sgôr pleidlais etholaeth Cynulliad uchaf Plaid Cymru ers Hydref 2009.

“O edrych ar y pleidiau eraill, mae UKIP yn parhau i berfformio’n eithaf cryf. Wedi dweud hynny … roeddwn i a dweud y gwir yn disgwyl ‘bowns’ ar ôl etholiadau Ewrop i’w codi nhw’n uwch na hyn, yn enwedig ar y bleidlais restr.

“Mae ffigyrau’r Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau i fod yn drychinebus; mae rhai’r Ceidwadwyr yn gyson ar lefel o gefnogaeth barchus ond nid gwych.”