Mae 70% o linellau ffôn Ysbyty Gwynedd bellach yn gweithio ac mae llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gobeithio y bydd gweddill y llinellau ffôn yn gweithio erbyn diwedd y dydd.

Bu’n rhaid i’r ysbyty ganslo tua 20 o lawdriniaethau a drefnwyd ymlaen llaw heddiw, ar ôl i fellten daro mast allanol yn ystod y stormydd dros y penwythnos.

Credir bod y difrod wedi ei wneud yn ystod y storm ddydd Sadwrn. Roedd adroddiadau hefyd bod nyrs wedi cael ei tharo gan fellten yn ystod yr un storm.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr:

“Mae’r gwaith yn parhau ac rydym yn gobeithio y bydd gweddill y llinellau yn gweithio erbyn diwedd y dydd heddiw.”

Mae apwyntiadau cleifion allanol wedi bod yn mynd yn eu blaen heddiw ond dywed y bwrdd y dylai cleifion ddisgwyl rhywfaint o oedi oherwydd y problemau.