Gig olaf Edward H yn 2013
Bydd pedwar o bump aelod gwreiddiol Edward H Dafis yn cloi Gŵyl Nôl a Mlân heno yn Llangrannog gyda H a’r Band.

Daw’r gig ddeg mis ar ôl gig ffarwel Edward H Dafis yn Eisteddfod Sir Ddinbych o flaen tua 5,000 o bobol, a dywedodd y prif leisydd Cleif Harpwood nad yw’r gig heno yn dibrisio’r noson fawr honno.

“Dim o gwbwl. Cael a chael oedd hi bod y noson honno wedi digwydd, a do’n i ddim yn disgwyl cymaint o sylw iddi.

“Mae H a’r band wedi bod yn gigio ers rhyw ddwy flynedd, a byddwn ni’n perfformio eleni yn Eisteddfod Llanelli wrth inni ddathlu 40 mlynedd ers sioe Nia Ben Aur.

“Ni’n teimlo bod ni eisiau cyfrannu eto i gerddoriaeth Gymraeg a pherswadio pobol i drefnu pethe eto, fel oedd yn digwydd o’r blaen.”

Llangrannog yn ysbrydoli

Bydd H a’r band, sy’n cynnwys Cleif Harpwood, Hefin Elis, Charli Britton a John Griffiths, heno’n cloi’r ŵyl sy’n cael ei chynnal rhwng tafarnau’r Ship a’r Pentre. Mae’r cantorion Elain a Ffion Llwyd, a Mirain Haf yn rhan o’r band hefyd, a’r gitarydd Wyn Pearson.

Dywed Cleif Harpwood fod Llangrannog wedi bod yn ysbrydoliaeth iddo.

“Bues i’n gweithio yng ngwersyll Llangrannog bob haf am gyfnod o bum mlynedd, cyn dyddiau’r ensuites! Bydden ni’n codi pebyll ym mis Mehefin ac yn tynnu nhw lawr ym mis Awst. Roedd e’n gyfnod hapus iawn a llawer o fwrlwm.

“Treuliais i lawer noson yn cyfansoddi yn y gwersyll, a chafodd Ysbryd y Nos ei hysbrydoli gan ynys Lochtyn.”

Dywedodd fod gwyliau megis Nôl a Mlân yn “hollbwysig” i’r sîn Gymraeg.

“Oni bai ein bod ni’n ysgogi pobol i fynd i wyliau fel hon yna ni’n mynd i golli rhan bwysig o’n diwylliant ni,” meddai.