Eric Pickles
Mae llai o dai newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru, a Llywodraeth Lafur Cymru sydd ar fai.

Dyna’r cyhuddiad gan y Tori Eric Pickles, aelod o gabinet Llywodraeth Prydain sy’n Ysgrifennydd Gwladol Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi taro’n ôl gan ddweud bod mwy o dai yn cael eu codi yng Nghymru nag yn Lloegr.

Ddoe yn San Steffan roedd Eric Pickles yn honni bod Llywodraeth Cymru yn erbyn busnes a bod hynny wedi arwain at adeiladwyr tai yn canolbwyntio ar ddatblygiadau yn Lloegr.

Yn ôl Pickles mae rheolau newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer codi tai wedi ychwanegu hyd at £13,000 at y gost o godi tŷ, gan achosi niwed i fusnesau a swyddi.

“Nid oes angen i aelodau gymryd fy ngair i am hyn,” meddai Eric Pickles wrth y Senedd, “oherwydd mae Ffederasiwn y Meistri Adeiladu wedi dweud bod cynllun gwastraff Llywodraeth Cymru yn ‘wrthgynhyrchiol’ ac ‘yn mynd i yrru’r diwydiant i i bwll du o anobaith’.”

Rheolau adeiladu newydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyhuddo o gynyddu’r gost o godi tai oherwydd “dehongliad gorawyddus o reolau carbon isel” a’u polisi o fynnu bod chwistrellwyr dŵr ym mhob tŷ newydd sydd wedi ei godi ers mis Medi 2013.

Ond meddai llefarydd Llywodraeth Cymru: “Mae’r sylwadau hyn yn groes i’r gwirionedd. Dengys y data diweddara’ ar godi tai newydd bod y diwydiant adeiladu yng Nghymru yn perfformio’n well nag yn Lloegr.

“Yng Nghymru roedd 6% yn fwy o dai yn chwarter olaf 2013 o gymharu gyda’r flwyddyn flaenorol, tray n Lloegr 5% oedd y ffigwr cyfatebol.”