George North
Y canwr opera Rhys Meirion, y darllenwr newyddion Huw Edwards a’r cawr o chwaraewr rygbi George North sydd ymysg y rhai fydd yn derbyn anrhydeddau gan Brifysgol Bangor eleni.

Bydd yr anrhydeddau yn cael eu rhoi yn ystod y seremonïau graddio ym mis Gorffennaf, i gydnabod a gwobrwyo pobol am eu cyfraniadau i fywyd Cymru, mewn gwahanol feysydd.

Bydd y darlledwyr profiadol Beti George a Dei Tomos, yn cael eu cydnabod am eu cyfraniad i ddarlledu yn y Gymraeg, tra bydd David ac Alison Lea-Wilson, sefydlwyr cwmni Halen Môn, a Sw Môr Môn cyn hynny, yn cael eu gwobrwyo am eu cyfraniad i fyd busnes yng Ngogledd Cymru.

Meddai’r Athro John G Hughes, Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor: “Mae gwreiddiau Prifysgol Bangor yn ddwfn yn ei chymuned ac rydym yn hynod falch o’r cyfle i gydnabod y cyfraniadau gwerthfawr y mae’r bobol yma wedi’u gwneud yn eu gwahanol feysydd.

“Maen nhw wedi gwneud cyfraniad hollbwysig i fywyd Cymru, neu mae ganddyn nhw gysylltiad cryf â Phrifysgol Bangor, ac rydym yn edrych ymlaen at eu croesawu i’n seremonïau graddio yng Ngorffennaf.”

Rhestr lawn

Dyma restr lawn o’r rhai sydd i dderbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd:

Yr Athro Ed Hill – Am wasanaeth i wyddorau eigioneg
Pennaeth y National Oceanographic Centre, Prifysgol Southampton; cyn fyfyriwr ôl-radd ac aelod staff ym Mangor.

Beti George – Am wasanaeth i ddarlledu yn y Gymraeg
Newyddiadurwraig a darlledwraig ar deledu Cymraeg am 30 mlynedd; cyn-fyfyriwr o Gaerdydd ac Aberystwyth.

Yr Athro Robert Owen Jones OBE – Am wasanaeth i hybu’r iaith Gymraeg ym Mhatagonia
Cyn Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd;  graddiodd o Fangor a dechreuodd ei yrfa academaidd yno – 9 mlynedd yn yr Adran Ieithyddiaeth; dyfarnwyd OBE iddo yn 2012 am hyrwyddo ac adfywio’r iaith Gymraeg ym Mhatagonia.

David ac Alison Lea-Wilson – Am wasanaeth i fusnes yng ngogledd Cymru. Sefydlwyr Sw Môr Môn a Halen Môn; entrepreneuriaid lleol sydd â chysylltiad maith â’r Brifysgol ac sydd wedi dweud bod Prifysgol Bangor wedi bod yn elfen allweddol yn eu llwyddiant.

Andrew McNeillie – Am wasanaeth i gyhoeddi.
Athro Emeritws Saesneg ym Mhrifysgol Caerwysg; cyn Olygydd Llenyddol yng Ngwasg Prifysgol Rhydychen; sefydlodd y Clutag Press, gan gynhyrchu gwaith beirdd fel Seamus Heaney a Geoffrey Hill; fe’i ganed a’i fagu ym Mae Colwyn a Llandudno.

Dei Tomos – Am wasanaeth i ddarlledu yn y Gymraeg.
Cyflwynydd ar BBC Radio Cymru; bu’n gweithredu fel cynghorwr arbenigol i’r cais llwyddiannus i’r Loteri Treftadaeth ar gyfer yr Amgueddfa a’r Oriel Gelf.  Cyn-fyfyriwr o’r Coleg Normal.

Yr Athro Jean White – Am wasanaeth i addysg nyrsio.
Prif Swyddog Nyrsio Cymru er 2010; mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r agenda iechyd a phroffesiynol yng Nghymru ac yn rhyngwladol; mae wedi bod yn gefnogwr  i waith yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd;  Athro ar Ymweliad yng Nghaerdydd; wedi derbyn gradd er anrhydedd gan Abertawe.

Yr Athro Donal T Manahan – Am wasanaeth i wyddoniaeth.
Athro Gwyddorau Biolegol, University of Southern California; arbenigwr ym maes ffisioleg amgylcheddol anifeiliaid môr a’r ffordd y maent yn addasu i’w hamgylchedd; prif wyddonydd i dros 20 o deithiau gwyddonol i’r Antarctig – mae mynydd wedi’i enwi ar ei ôl yno.  PhD o Fangor.

George North – Am wasanaeth i chwaraeon
Chwaraewr rygbi dros Gymru a’r Llewod Prydeinig a Gwyddelig; fe’i magwyd ar Ynys Môn ac aeth i Ysgol Bodedern; y chwaraewr ifancaf erioed i sgorio cais yn ystod ei gêm gyntaf dros Gymru.

Rhys Meirion – Am wasanaeth i gerddoriaeth.
Canwr opera Cymraeg sydd wedi cael llwyddiant rhyngwladol; fe’i ganed a’i fagu yn Nhremadog; gweithiodd fel athro cyn penderfynu mynd i astudio i’r Guildhall School of Music, Llundain; gyda’r English National Opera (2001-04) bu’n canu’r rhan fwyaf o’r prif ddarnau i denoriaid; bu’n canu yn ystod seremoni gosod Carreg Sylfaen Pontio yn Ionawr 2013.

Huw Edwards – Am wasanaeth i newyddiaduraeth a darlledu.
Darllenwr newyddion a chyflwynydd gyda’r BBC.