Y Ty Cychod yn Nhalacharn (Llun yn y pau cyhoeddus)
Mae arweinydd lleol wedi beirniadu penderfyniad Cyngor Sir Gâr i ganiatáu codi melin wynt gyferbyn ag un o atyniadau twristaidd mwya’r ardal.

Roedden nhw’n “saethu’u hunain yn eu troed”, meddai, wrth fynd yn groes i farn swyddogion cynllunio tros y felin sydd ar draws y dŵr o’r Tŷ Cychod yn Nhalacharn lle’r oedd y bard Dylan Thomas yn byw a gweithio.

Roedd y penderfyniad yn arbennig o chwithig o gofio’i fod yn dod ynghanol dathliadau canmlwyddiant y bardd, meddai Clerc Cyngor Tref Talacharn, Chris Delaney.

Maen nhw’n ystyried i weld a oes ffyrdd o herio’r penderfyniad.

Y cefndir

Roedd swyddogion y Cyngor Sir wedi argymell gwrthod cais ffermwyr lleol i godi’r felin wynt ar fferm Mwche yn ardal Llansteffan, ar draws aber afon Tywi o Dalacharn.

Un o’r dadleuon oedd  pwysigrwydd yr ardal leol oherwydd ei chysylltiadau â’r bardd Dylan Thomas a’r ffaith y byddai’r felin i’w gweld o’r Boat House.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, derbyniodd y Cyngor Sir 422 o lythyron yn gwrthwynebu’r cais, er nad oedd gan y rhan fwya’ o’r cyrff ymgynghori statudol ddim gwrthwynebiad.

Ond ddoe, fe bleidleisiodd pwyllgor cynllunio’r Cyngor o blaid gan roi’r hawl i swyddogion osod amodau.

‘Siomedig’

Heddiw, dywedodd Chris Delaney ei fod yn flin am y penderfyniad.

“R’yn ni’n siomedig iawn gyda’r penderfyniad, yn enwedig oherwydd pwysigrwydd yr ardal i dwristiaid ac yn enwedig yn ystod canmlwyddiant geni Dylan Thomas.

“Mae’n ymddangos bod y Cyngor Sir wedi saethu eu hunain yn y droed. Mae’r penderfyniad cibddall hwn yn mynd yn groes i benderfyniadau eraill sydd wedi cael eu gwneud ganddyn nhw.

“Byddai’r felin wynt yn hyll yr olwg, ac mae’n ymddangos o ran y Cyngor nad yw’r llaw dde’n gwybod beth mae’r llaw chwith yn ei wneud.”

Rhesymau

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Gâr y bydd swyddogion yn mynd yn ôl at y pwyllgor gyda’r rhesymau tros dderbyn.