Stondin Eisteddfod Parc Cenedlaethol Eryri
Fe fydd arolwg yn edrych ar y posibilrwydd o greu un drefn newydd ar gyfer Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru.

Fe allai hynny olygu cael gwared ar y gwahaniaethau rhwng y ddwy fath o ardal a newid y ffordd y maen nhw’n cael  eu rheoli.

“O ystyried eu pwysigrwydd, mae’n rhaid diwygio pwerau er mwyn i’r parciau allu ymdopi gyda heriau’r  presennol a’r dyfodol,” meddai’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon John Griffiths mewn dadl yn y Cynulliad.

“Mae’r ddeddfwriaeth (i greu’r Parciau) bellach yn 75 oed, felly fe fydda’ i’n gofyn i gorff adolygu ei hailystyried.”

Beirniadaeth

Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol dan ofal cynghorau lleol ond mae gan y Parciau Cenedlaethol eu hawdurdodau eu hunain a nhw sy’n gyfrifol am gynllunio yn eu hardaloedd.

Un o’r beirniadaethau yw fod hynny’n creu dryswch a gwahaniaeth mawr o fewn awdurdodau lleol.

Mae’r tri pharc cenedlaethol – Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Sir Benfro – yn cyfrannu mwy nag  £1 biliwn tuag at economi’r wlad bob blwyddyn ond mae rhai wedi cael eu beirniadu am atal datblygiadau a allai fod o fudd i gymunedau lleol.

‘Diwygio nid dileu’

Er ei fod yn cytuno gyda’r angen am ddiwygio, fe rybuddiodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol, William Powell, na ddylai Awdurdodau’r Parciau gael eu dileu.

“Mae’n rhaid i ni sicrhau fod awdurdodau’r parciau yn atebol i’r cymunedau sydd o fewn eu ffiniau, a bod y cymunedau hynny yn cael llais ar yr awdurdodau,” meddai.

“Ond mae’n rhaid iddyn nhw fabwysiadu, yn hytrach na gwrthod, datblygiadau economaidd a chyfleoedd i greu swyddi ar eu tir.”