Bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi heddiw bod Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol newydd yn cael ei lansio ym mis Tachwedd.

Fe fydd cofrestr newydd yn cael ei chreu, gydag enwau pob plentyn sy’n aros i gael ei fabwysiadu ac enwau’r teuluoedd sy’n awyddus i gymryd plant.

Fe fydd y drefn newydd yn cyflymu’r broses o fabwysiadu, meddai’r Dirprwy Weinidog tros Wasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, sy’n dweud bod gormod o oedi ar hyn o bryd a hynny’n niweidio plant.

Denu rhagor i fabwysiadu

Mae Gwenda Thomas hefyd yn gobeithio y bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn denu rhagor o bobol i fabwysiadu ac yn gwella’r cymorth wedyn.

“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi y bydd Asiantaeth Fabwysiadu Genedlaethol Cymru yn cael ei lansio’n ffurfiol fis Tachwedd,” meddai.

“Rwy’n ymwybodol o’r oedi yn y system fabwysiadu ac rwy’n dal i fod yn bryderus am y niwed parhaol y gallai hyn ei gael ar blant, gan eu hamddifadu o’r cyfle gorau am gariad a sefydlogrwydd teulu newydd.

“Bydd y gwasanaeth newydd yn rhoi sylw i bryderon cyfredol heb golli gwir gryfderau’r system bresennol, gan sicrhau newid heb unrhyw amharu ar y gwasanaeth.”

Elusen yn cynnal y rhestr

Yn dilyn tendr, mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu’r cytundeb i redeg y gofrestr newydd i’r  British Association for Adoption and Fostering (BAAF) Cymru.

Dywedodd Wendy Keidan, Cyfarwyddwr BAAF Cymru: “Mae BAAF Cymru yn hapus iawn i ennill y contract i weithredu’r Gofrestr Fabwysiadu unigol gyntaf i Gymru ar ran Llywodraeth Cymru.