Candelas (Llun: Heledd Roberts)
Mae Gig Aelwydydd, a oedd i fod i gael ei chynnal nos fory yn Y Bala, wedi’i chanslo yn dilyn marwolaeth tad un o’r cerddorion.

Roedd y grwp Candelas i fod i berfformio yn y dafarn ar ddiwedd wythnos Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd, ond bu farw Derec Williams o Lanuwchllyn nos Fawrth yr wythnos hon – tad i’r gitarydd Osian Williams.

“Wrth geisio dygymod â cholled un mor arbennig, penderfynwyd gohirio gig aelwydydd nos Sadwrn yma yn y Plas Coch,” meddai neges gan y trefnwyr heddiw. “I’r rhai sydd wedi prynnu tocynnau bydd modd hawlio ad-daliad yn fuan ar ôl y penwythnos.”

Er na fydd y grwp yn perfformio, fe fydd adloniant yn y Plas Coch ar gyfer y cystadleuwyr sy’n dymuno mynd yno yn syth o’r Maes nos Sadwrn.