Owain Huw o Bromas
Bydd gan sioe ieuenctid newydd Theatr yr Urdd ym mis Gorffennaf leoliad go anarferol – gan mai clwb nos yn Aberystwyth, nid theatr na llwyfan draddodiadol, fydd yn cynnal y perfformiad!

Mae drama newydd Bethan Marlow, ‘Cysgu’n Brysur’, yn trafod galar, awch, hwyl ac antur gyda’r cast ifanc yn dod at ei gilydd o bob cwr o Gymru i berfformio’r sioe.

Clwb nos Pier Pressure yn Aberystwyth fydd yn cynnal y perfformiadau rhwng 8-10 Gorffennaf – lleoliad sydd yn fwy cyfarwydd â myfyrwyr meddw nag actorion dawnus.

Ac yn ôl Owain Huw o fand Bromas, y band sydd wedi cyfansoddi cerddoriaeth y sioe, roedd y sgriptwraig yn awyddus i ddewis lleoliad fyddai’n gweddu ar gyfer pobl ifanc y sioe.

“Bethan Marlow, mae hi’n eitha’ unorthodox,” meddai Owain Huw wrth golwg360. “Fe wnaeth hi literally weud pan ddywedodd hi mai dyna oedd hi moyn neud e; ‘Mae’r lle yn drewi o secs’!

“Ond pobl ifanc sydd yn ddrama, ac mae e am bobl ifanc.”

Mae’r ddrama’n seiliedig ar ystafell ddosbarth mewn ysgol, gydag arholiadau ar gychwyn ond un sedd yn wag a hynny oherwydd marwolaeth disgybl mewn damwain car.

Bydd 28 aelod yn y cast o bob cwr o Gymru yn y sioe, a gynhyrchir gan gwmni Arad Goch, gyda Marlow yn sgriptio, Jeremy Turner fel Cyfarwyddwr Artistig, Rhys Taylor yn Gyfarwyddwr Cerddorol ac Eddie Ladd fel Coreograffydd.

Gwyliwch y cyfweliad ag Owain Huw isod: