Yn dilyn cynllun peilot yng Nghymru, mae cyfres o brofion i ddarganfod cyflwr genetig yn ymwneud a cholesterol uchel wedi cael ei lansio ym Mhrydain.

Bwriad y profion yw ceisio adnabod yr un o bob 200 o deuluoedd sy’n cario’r genyn familial hypercholesterolaemia (FH) – sy’n gallu achosi trawiad ar y galon ac arwain at farwolaeth cyn cyrraedd 60 oed.

Fe wnaeth y cynllun peilot yng Nghymru ddarganfod bron i 500 o bobol oedd gyda’r cyflwr genetig.

Mae Sefydliad y Galon wedi cyfrannu £1 miliwn tuag at y cynllun newydd a fydd yn cynnal profion DNA gan nyrsys arbenigol.

Nid yw 85% o bobol sy’n byw hefo’r genyn FH yn cael diagnosis ohono ac mae gan rieni sydd yn cario’r genyn siawns o 50/50 o’i basio ymlaen i’w plant.

Datblygiad

Dywedodd Dr Tim Chico, ymgynghorwr cardiolegydd ym Mhrifysgol Sheffield:

“Mae cyfnod newydd mewn meddyginiaeth wedi cychwyn.

“Fe fydd hi’n dod yn fwy amlwg fod cyflyrau genetig mewn perthnasau yn effeithio ar iechyd eraill ac fe fydd yn ein galluogi i deilwra’r cyffuriau angenrheidiol ar gyfer y cleifion sydd fwyaf angen y driniaeth.”