Ymarferion ar gyfer y sioe ieuenctid Dyma Fi, Llun: Emyr Young
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi y bore ma i un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, Derec Williams, fu farw’n sydyn neithiwr yn 64 oed.

Cafodd ei fagu yn Amlwch, Ynys Môn, ond bu’n byw yn Llanuwchllyn ers nifer o flynyddoedd.

Mae’n gadael gweddw, Ann, a thri o blant, Meilir, Branwen ac Osian, awduron a chyfansoddwyr sioe ieuenctid yr Urdd a oedd i fod i gael ei pherfformio heno.

Mae Eisteddfod yr Urdd wedi gohirio’r sioe ‘Dyma Fi’ oherwydd y newyddion.

Dywedodd Aled Sion, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a’r Celfyddydau: “Tristwch mawr oedd clywed am farwolaeth Derec Williams. Roedd wedi ysbrydoli cenedlaethau o’n hieuenctid ni ac wedi rhoi cyfleoedd i gymaint wireddu eu breuddwydion ar y llwyfan.

“Mae’r Eisteddfod hon eleni yn brawf o’i ddylanwad, gyda’i blant, Meilir, Branwen ac Osian wedi creu a chynhyrchu’r sioe ‘Dyma Fi’ ar gyfer yr Ŵyl. Mae’r Urdd yn cydymdeimlo gyda’i wraig Ann a’r plant.”

‘Cyfraniad yn byw am byth’

Wrth roi teyrnged i’w “ffrind gorau” ar y Post Cyntaf y bore ma dywedodd y prifardd Penri Roberts, un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn:  “Roedden ni wedi bod efo’n gilydd ers blynyddoedd yn sgwennu sioe ar ôl sioe – mae’n anodd mesur cyfraniad y dyn, ond fe fydd ei gyfraniad yn byw am byth.

“Roedd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau cannoedd o bobl ifanc.”

“Mi oeddwn i wedi bod yn y sioe Dyma Fi nos Lun,” meddai’r darlithydd Prysor Williams, Llywydd 32 oed yr Urdd. “Roedd hi mor braf gweld bod yr awenau wedi eu rhoi i’r genhedlaeth nesaf a bod y genhedlaeth nesaf yn gallu parhau efo gwaith arbennig eu tad a chynhyrchu campwaith.”