Mae arolwg newydd wedi dangos bod gyrwyr yn eu harddegau yn gyfrifol am un o bob wyth o ddamweiniau ffordd.
Dros y DU, mae’r arolwg yn dangos bod 11.9% o’r damweiniau ffyrdd ble cafodd rhywun ei anafu neu ei ladd yn ymwneud â gyrrwr car 17-19 oed.
Mae hyn er gwaetha’r ffaith mai dim ond 1.5% o yrwyr trwyddedig sydd rhwng 17-19 oed.
Mae cyfran y damweiniau sy’n ymwneud â gyrwyr 17-19 oed ar ei uchaf yn ardal Dyfed Powys yng Nghymru sef 18.2%.
Mae ardal Gwent yn ail ar 17%, ac mae ardaloedd Cumbria a Gogledd Cymru yn 15.8%. Llundain oedd â’r gyfran leiaf ar 5.6%.
Roedd yr arolwg wedi ei gomisiynu gan sefydliad moduro’r RAC ac roedd yn seiliedig ar ffigyrau pum mlynedd.
Dywed arbenigwyr yr RAC bod yr ymchwil yn brawf pellach bod angen i Lywodraeth Prydain gymryd camau i weddnewid y prawf gyrru a chyflwyno cyfyngiadau ar yrwyr ifanc nes eu bod nhw’n fwy profiadol.
Yn ôl yr RAC fe fydd un o bob pum gyrrwr ifanc yn cael damwain o fewn chwe mis o basio’u prawf gyrru.
Maen nhw’n wynebu mwy o risg mewn ardaloedd gwledig oherwydd safon y ffyrdd a’r amodau gyrru sy’n gallu bod yn fwy heriol.