Senedd Ewrop
Pleidiau Ewrosgeptig adain dde, gan gynnwys UKIP yng Ngwledydd Prydain, fu fwyaf llwyddianus yn yr Etholiadau Ewropeaidd.

Bellach mae’r canlyniadau yng Ngwledydd Prydain i gyd wedi dod i law a’r dadansoddi wedi dechrau wrth i’r prif bleidiau ystyried eu tactegau o hyn hyd at yr Etholiad Cyffredinol y flwyddyn nesaf.

Cymru

Yng Nghymru daeth UKIP o fewn 0’5%  i Lafur ar y brig gyda’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ymhell ar ôl.

Ond does yna ddim newid yn nosbarthiad y seddi, gyda Llafur, UKIP, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru i gyd yn cadw sedd.

Mae hynny’n golygu fod Jill Evans, Plaid Cymru, yn cadw ei sedd hi, er gwaetha’ darogan y byddai’n colli.

UKIP “am ail-adrodd y llwyddiant”

Dywedodd Nathan Gill, aelod newydd Cymreig UKIP yn Ewrop fod ei blaid yn hyderus y byddan nhw’n gallu ailadrodd eu llwyddiant Ewropeaidd yn yr Etholiad Cyffredinol.

“Rydyn ni wedi dangos, os byddwn ni’n gweithio’n galed, bod pobol yn pleidleisio i ni,” meddai ar ôl i’w blaid ddod o fewn 4,350 o bleidleisiau i ddod o flaen Llafur yn y bleidlais trwy Gymru.

Plaid Cymru yn teimlo’n galonnog

Mae Plaid Cymru hefyd yn dweud eu bod yn teimlo’n galonnog wrth edrych ymlaen at yr Etholiad Cyffredinol.

Yn ôl eu Pennaeth Newyddion ac Ymchwil, Helen Bradley, roedd eu tactegau wedi llwyddo – trwy ganolbwyntio ar gael eu cefnogwyr i’r bythau yn eu hetholaethau cryf.

“Oedd UKIP yn cael llawer o sylw yn y wasg ar draws gwledydd Prydain felly roedden ni’n gwybod bod dim llawr o bwynt ceisio cystadlu ar y lefel honno,” meddai.

Llafur wedi eu plesio

Cafodd Llafur eu plesio’n arw gan eu perfformiad yng Nghymru.

Dywedodd Llefarydd y blaid ar Faterion Cymreig, Owen Smith, bod gweld eu pleidlais yn codi o 9%, a’r ffaith eu bod wedi gwneud cystal mewn rhai ardaloedd yn bwysig iawn wrth baratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf.

“Roedd pawb yn disgwyl canlyniad cryf i UKIP felly dyw’r ffaith eu bod yn ail cryf yn ddim syndod,” meddai.

Dem Rhydd – ‘amddiffyn’

Fel y digwyddodd hi ar draws gwledydd Prydain, fe gollodd y Democratiaid Rhyddfrydol yn drwm, hyd yn oed yn eu hardaloedd cryfa’, fel Powys a Cheredigion.

Ond, yn ôl Tom Woodward, eu nod yn yr Etholiad Cyffredinol fydd ceisio dal eu gafael ar y seddi sydd ganddyn nhw a gobeithio cipio Maldwyn.

“Dyna yw ein tactegau ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai Woodward. “R’yn ni’n amddiffyn ein tir. Ond dyw canlyniadau etholiadau Ewrop ddim yn trosglwyddo i etholiadau cyffredinol.”

Y Ceidwadwyr am “godi proffil Ewrop”

Cafodd Kay Swinburne ei hail ethol ar ran y Ceidwadwyr er bod y blaid wedi gostwng i’r trydydd safle ar ôl Llafur ac UKIP yn yr etholiad yma.

Dywedodd bod ymwneud â’r cyhoedd yn amlwg yn bwnc llosg.

“Rhaid i ni godi proffil yr hyn y mae’r Undeb Ewropeaidd yn ei olygu a phroffil yr hyn y mae Aelodau Ewropeaidd yn ei wneud o ddydd i ddydd,” meddai wrth y BBC.

Y sefyllfa yng Ngwledydd Prydain

Dywedodd Nigel Farage bod “ei freuddwyd wedi dod yn wir wrth i UKIP ennill mwy o bleidleisiau led-led Gwledydd Prydain na’r un blaid arall yn yr etholiadau i ddewis Aelodau Seneddol Ewropeaidd.

Dyma’r tro cyntaf i blaid heblaw am y Ceidwadwyr a Llafur ennill y mwyaf o bleidleisiau ym mhob cwr o Wledydd Prydain ers dros ganrif.

Yn yr Alban, er mai’r SNP gafodd y nifer mwyaf o bleidleisiau a Llafur yn ail, fe lwyddodd UKIP i ennill eu sedd gyntaf yn y wlad.

Fel yng Nhgymru, etholiad trychinebus gafodd y Democratiaid Rhyddfrydol gan golli unarddeg o’u deuddeg sedd yn Ewrop.

Er hyn, mae Nick Clegg yn parhau i wrthod galwadau arno i ymddiswyddo fel arweinydd.

Nid da lle gellir gwell oedd ymateb Ed Milliband wrth i’r Blaid Lafur ddaeth yn ail i UKIP trwy Wledydd Prydain.

Pwysleisiodd beth bynnag na fydd yn ail feddwl am wrthod cynnal refferendwm ar aelodaeth o’r UE onibai bod yna gynlluniau ar droed i drosglwyddo rhagor o bwerau i Frwsel.

Dywed y Prif Weinidog David Cameron ei fod “wedi clywed ac yn deall” y neges i’w blaid gan yr etholwyr wrth i’r Ceidwadwyr lithro i’r trydydd safle.

Roedd hefyd yn awyddus i atgoffa pawb mai dim ond y Ceidwadwyr sy’n cynnig refferendwm ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.

Gweddill Ewrop

Pleidiau ewrosgeptig a phleidiau adain dde eithafol oedd fwyaf llwyddianus ar hyd a lled y cyfandir.

Daeth y canlyniad mwyaf syfrdanol yn Ffrainc wrth i blaid adain dde eithafol y Ffrynt Genedlaethol ddod i’r brîg gan achosi yr hyn mae’r Prif Weinidog yno wedi ei alw yn “ddaeargryn gwleidyddol”.

Fe wnaeth y blaid ennill 25 sedd a 25% o’r bleidlais er mai dim ond tair sedd oedd ganddyn nhw cyn hyn.

Roedd y sosialwyr yn fwy llwyddianus yng Ngwlad Groeg wrth i blaid Syriza ennill dros 26% o’r bleidlais.

Mae nhw, fel y blaid Chwith Unedig yn Sbaen, wedi ymgyrchu yn erbyn y mesurau economaidd llym osodwyd ar eu gwledydd yn sgîl trafferthion yr Ewro.

Y Senedd newydd

Grŵp canol-dde Plaid Pobl Ewrop felly fydd yn y mwyafrif yn y Senedd newydd efo 212 allan o 751 o seddi a 28.3% o’r bleidlais ar draws yr Undeb.

Arweinydd y grŵp yma, Jean-Claude Juncker, yw’r ffefryn i fod yn Arlywydd nesa’r Undeb.

“Yn groes i’r hyn sy’n cael ei adrodd ar y cyfryngau, wnaeth y pleidiau adain dde eithafol ddim ennill yr etholiad yma.

“Fe fydd yna fwyafrif pro-Ewrop clir yn y Senedd,” ychwanegodd.

Y Grŵp Sosialaidd fydd yr ail fwyaf yn y Senedd newydd gyda 186 sedd a 24.77% o’r bleidlais, yna’r Rhyddfrydwyr efo 70 sedd a 9.32% a’r Gwyrdd efo 55 a 7.32%.

Mae’r Grŵp Ewrop dros Ryddid a Democratiaeth yn debygol o gael tua’r un nifer o seddi a’r tro diwethaf, a dyma’r grŵp y mae UKIP yn rhan ohono.