Mae pysgotwyr a mudiadau cefn gwlad wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi cynlluniau i ganiatáu gweithgareddau hamdden ar unrhyw un o afonydd a llynnoedd Cymru o’r neilltu.

Cyhoeddodd y Gweinidog Diwylliant, John Griffiths, y llynedd y byddai’r Llywodraeth yn ystyried creu deddf a fyddai’n caniatáu unrhyw un i ganŵio lle bynnag a phryd bynnag eu bod yn mynnu.

Fe wnaeth hyn arwain at lansio Ymgyrch Mynediad Cynaliadwy Cymru (SACC) a oedd yn gwrthwynebu rhoi mynediad cyhoeddus i dir a dyfroedd.

Yn dilyn yr ymgyrchu, fe gyhoeddodd y Llywodraeth y bydd gweithgareddau hamdden yn parhau i ddigwydd o fewn misoedd penodedig o’r flwyddyn lle mae lefel y dŵr yn ddigon uchel.

Mae’r SACC rŵan yn galw ar sefydliadau canŵio i gefnogi’r penderfyniad ac i roi’r gorau i ddosbarth gwybodaeth anghywir i’r cyhoedd, sy’n achosi pobol i ganŵio yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Hen hanes o ffraeo

Yn 2010 roedd Llywodraeth Cymru eisiau annog mwy o gytundebau gwirfoddol rhwng tirfeddianwyr a phobol fel canŵ-wyr sydd eisio mynediad at lynnoedd ac afonydd.

Roedd hyn yn dilyn ymgyrch gan Canŵ Cymru oedd am i’r gwleidyddion edrych yn fwy manwl ar ddeddfwriaeth hawl mynediad.

Bu anghydfod rhwng pysgotwyr a chanŵ-wyr, gyda’r pysgotwyr yn dadlau mai nhw sydd wedi talu trwydded am yr hawliau pysgota, a’r canŵ-wyr yn mynnu eu bod yn talu eu trethi ac felly’n haeddu mynediad di-rwystr yn rhad ac am ddim.