Jill Evans
Mae ffigyrau Ewropeaidd yn dangos mai dim ond un wlad annibynnol yn yr UE sydd yn gwario llai o arian cyhoeddus na Chymru o fewn ei ffiniau.

Nawr, mae Plaid Cymru yn galw am roi ‘Contractau Cymreig i Gwmnïau Cymreig’ i greu 50,000 yn fwy o swyddi yng Nghymru a haneru diweithdra.

Ar hyn o bryd, aiff 52% o wariant caffael cyhoeddus gan gyrff cyhoeddus Cymru – fel contractau’r llywodraeth, gwariant y GIG, ysgolion neu lywodraeth leol, i gwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.

Ond mae’r ffigyrau diweddaraf a roddwyd i Blaid Cymru gan y Comisiwn Ewropeaidd am gaffael rhwng 2009 a 2011 yn dangos mai un wlad yn yr Undeb Ewropeaidd cyfan – Melita – sydd â record waeth.

‘Gwario’n lleol’

Meddai Plaid Cymru eu bod nhw am weld  arian sy’n aros yng Nghymru yn cael ei wario wedyn mewn cymunedau lleol, gan greu mwy o waith.

Dywedodd ASE Plaid Cymru Jill Evans: “Mae Plaid Cymru eisiau’r hyn sydd orau i bobl Cymru – gwaith da am gyflog parchus.

“Byddai ein polisi ‘contractau Cymreig i gwmnïau Cymreig’  yn creu 50,000 yn fwy o swyddi yng Nghymru a gallai haneru diweithdra.

“Dengys y ffigyrau newydd hyn gan y Comisiwn Ewropeaidd y byddai Cymru yn gwneud yn well o ran cael y contractau hyn petaem yn wlad annibynnol.

“Ar hyn o bryd, mae 48% o werth ein contractau yn gadael Cymru, felly nid yw ein gweithwyr a’n cymunedau yn gweld budd y gwariant hwn. Petai’n cael ei wario’n lleol, byddai’n creu mwy eto o swyddi.

“Mae gwledydd  bychain Ewropeaidd eraill yr un faint â Chymru yn cadw tua 90% o gontractau yn eu gwlad eu hunain.

“Os gall Iwerddon a gwledydd eraill Ewrop wneud hyn, pam na all Cymru?”