Mae rhestr pobol gyfoethoca’ gwledydd Prydain wedi’i datgelu gan bapur newydd The Sunday Times.

Mae’r ‘Rich List’ yn cynnwys dau biliwnydd o Gymru eleni.

Ond mae rhestr o gyfoethogion ar gyfer Cymru yn unig hefyd wedi’i chyhoeddi, ac mae’r rhan fwya’ ohonyn nhw wedi cynyddu yn eu gwerth er y llynedd.

Rhestr Cymru

1. Michael Moritz – yn werth £1.688bn, meddai’r Sunday Times, £563m yn fwy na’r llynedd;

2. Syr Terry Matthews – £1.190 billion, cynnydd o £68m;

3. Douglas Perkins a’i deulu – £900m, cynnydd o £30m;

4. Simon Nixon – £810m, cynnydd o £77m;

5. David Sullivan – £750m, cynnydd o £350m ers y llynedd;

6. Steve Morgan – £650m, cynnydd o £140m;

7. Henry Engelhardt a’i deulu – £575m, cynnydd o £27m

8. Yr Arglwydd Heseltine a’i deulu – £278m, cynnydd o £14m;

9. Syr Stanley a Peter Thomas – £235m, cynnydd o £5m;

10. Malcolm Walker – £215m, dim newid ers y llynedd;

11. Catherine Zeta Jones- £195m, cynnydd o £10m;

12. Syr Phillip Naylor-Leyland – £170m;

13. David a Heather Stevens – £166m, cynnydd o £14m;

14. Syr Chris Evans – £160m, cynnydd o £10m;

15. Syr Tom Jones – £145m, dim newid ers y llynedd;

16. Duncan Cameron – £132m, dim newid;

17. Dai a Richard Walters – £128m, i lawr £7m;

18. Bernard Rees Smith – £126m, cynnydd o £31m;

19. Syr George Meyrick – £120m, cynnydd o £10m.