Lindsay Whittle
Mae pobol oedrannus yn gorfod dewis rhwng bwyd a gwres, meddai Plaid Cymru, gyda chynnydd yn nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i ysbytai Cymru yn dioddef o ddiffyg maeth.

Maen nhw’n dweud, er enghraifft, bod nifer yr henoed a gafodd eu trin am ddiffyg maeth yn ysbytai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bedair gwaith yn fwy ers 2009-10, gyda 56 achos yn cael eu cofnodi yn ystod y naw mis diwethaf.

Maen nhw’n dadlau y bydd gwelliant i’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n mynd trwy’r Cynulliad yn sicrhau fod gan weithwyr gofal ddigon o amser i helpu’r henoed i goginio prydau bwyd.

Gwneud bywyd yn anodd

Dywedodd Lindsay Whittle, AC Dwyrain De Cymru fod y ffigyrau yn ddigon i ddychryn pobol:

“Cafwyd cynnydd ers dechrau’r dirwasgiad economaidd, ac mae’n ymddangos bod rhai pobol yn dewis rhwng gwresogi a bwyta,” meddai.

“Mae cost gwresogi a bwyd wedi codi’n sylweddol, gan wneud bywyd yn anodd iawn i’r rhai ar incwm sefydlog, fel pensiynwyr.

“Gall safon y gofal cymdeithasol y maen nhw’n ei dderbyn effeithio ar lawer o bobl hŷn, a does gan ofalwyr  ddim digon o amser i’w helpu i goginio.”