Y Trwbz
Band o Sir Ddinbych, Y Trwbz, wnaeth blesio gwrandawyr a dod i’r brig yn un o brif wobrau’r byd roc yng Nghymru neithiwr.

Fe gyhoeddodd Lisa Gwilym mai Y Trwbz oedd enillwyr Brwydr y Bandiau ar raglen radio C2, gan guro’r ddau fand arall – Nofa a Meibion Jac.

Mae’r aelodau – Mared Williams fel prif lais, Tommo Lloyd ar y gitâr, Morgan Elwy ar y bâs a Gruff Roberts ar y drymiau – yn ddisgyblion yn Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Brynhyfryd.

Fe fyddan nhw rŵan yn cael cyfle i recordio sesiwn C2 a pherfformio mewn nifer o gigiau gan gynnwys rhai Menter Iaith, Maes B a Gŵyl Tafwyl, dros y misoedd nesaf.

Fe fyddan nhw hefyd yn cael cyfle i gael sesiwn lluniau gyda ffotograffydd proffesiynol yn ogystal ag erthygl amdanyn nhw yng nghylchgrawn Y Selar.

‘Chuffed’

“Roedd cael recordio’r gân yn un peth, ond mae ennill y gystadleuaeth yn rhywbeth hollol wahanol,” meddai’r prif leisydd Mared Williams ar Radio Cymru’r bore ma.

“Rydan ni’n hollol chuffed.”

Mi fydd y band yn cefnogi Gai Toms a’r Band ym Mhlas Pigot, Dinbych nos ‘fory.