Lisa Gwilym
Bydd tri o fandiau ifanc Cymru’n mynd benben â’i gilydd heno wrth i Radio Cymru gynnal rownd derfynol Brwydr y Bandiau ar raglen C2 Lisa Gwilym.

Trŵbz, Nofa a Meibion Jac yw’r tri sydd wedi cyrraedd y ffeinal, gyda’r rhaglen yn dechrau am 7yh, ac fe fydd modd i wrandawyr bleidleisio am eu hoff fand yn y gystadleuaeth.

Mae’r Trŵbz yn fand o ardal Sir Ddinbych gyda’r aelodau – Mared Williams fel prif lais, Tommo Lloyd ar y gitâr, Morgan Elwy ar y bâs a Gruff Roberts ar y drymiau – yn ddisgyblion yn Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Brynhyfryd.

Fe fydd y band yn chwarae eu cân ‘I Estyn Am Y Gwn’ ym Mrwydr y Bandiau C2 heno.

Grŵp o ardal Crymych yn Sir Benfro yw Nofa, gydag Ifan Burge ar y gitâr a phrif lais, Steffan Williams ar y gitâr, Henry Jones ar y bâs a Dan Jones ar y drymiau.

Disgyblion o Ysgol Gymraeg Bryn Tawe yw Meibion Jac, fydd hefyd yn cystadlu i geisio ennill yn y ffeinal heno.

Yn y rownd gynderfynol cyntaf fis yn ôl fe lwyddodd Trŵbz i ddod i’r brig o flaen Y Gwyryf ac Aran, cyn i Nofa a Meibion Jac sicrhau eu lle yn y ffeinal hefyd ar ôl curo Y Rhacs.

Gwobr y band buddugol fydd cyfle i recordio sesiwn C2 a pherfformio mewn nifer o gigiau gan gynnwys rhai Menter Iaith, Maes B a Gŵyl Tafwyl, dros y misoedd nesaf.

Fe fyddan nhw hefyd yn cael cyfle i gael sesiwn lluniau gyda ffotograffydd proffesiynol yn ogystal ag erthygl amdanynt yng nghylchgrawn Y Selar.

Bydd modd pleidleisio am eich hoff fand heno ar wefan C2 Radio Cymru neu drwy decstio enw’r band o’ch dewis chi i 67500.