Lee Rigby
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cyflwyno rheolau newydd ynghylch sut gall pleidiau gwleidyddol ddisgrifio’u hunain ar bapurau pleidleisio yn etholiadau Ewrop.

Cafodd y newidiadau eu cyflwyno yn dilyn ffrae pan gyfeiriodd plaid Britain First mewn slogan at lofruddiaeth y milwr Lee Rigby.

Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi ymddiheuro wrth deulu Lee Rigby, a gafodd ei lofruddio’r llynedd, ac fe ddywedon nhw eu bod nhw’n awyddus i sicrhau na fyddai’r un camgymeriad yn digwydd eto.

Cafodd pedwar o sloganau’r blaid eu gwrthod gan y Comisiwn Etholiadol ond cafodd y tri arall, gan gynnwys y slogan dan sylw, eu caniatáu.

Er gwaetha’r newidiadau, fe fydd y slogan yn dal i’w weld ar y papurau pleidleisio yng Nghymru ar Fai 22.

‘Sarhad a gofid’

Mae’r etholiadau’n cael eu cynnal union flwyddyn ar ôl marwolaeth Lee Rigby, 25, ger barics Woolwich yn ne-ddwyrain Llundain.

Mae’r adroddiad yn dilyn arolwg annibynnol yn “nodi bod pob galwad yn cadarnhau’r defnydd o enw’r milwr Lee Rigby mewn disgrifiad o’r blaid wedi achosi sarhad a gofid mawr”.

Mae cyfarwyddwr cyllid pleidiau ac etholiadau’r Comisiwn Etholiadol, Peter Horne bellach wedi ymddiswyddo.

Cyfaddefodd ei fod wedi ystyried y slogan yn un di-chwaeth ond nad oedd yn ddigon i achosi sarhad.

Yn ôl yr arolwg, roedd staff y Comisiwn Etholiadol wedi methu â rhoi ystyriaeth i ddiogelwch y cyhoedd, moesau na hawliau ac enw da pobol eraill.

Ychwanegodd arweinydd yr ymchwiliad, Elizabeth Butler fod angen bod yn fwy gwyliadwrus pan fydd enw person yn cael ei gynnwys mewn slogan.