Owain Tudur yw capten Cymry Caerdydd
Proffil y Clwb

Enw: Clwb Rygbi Cymry Caerdydd

Sefydlwyd: 1967

Cae: Caeau Llandaf

Lliwiau: Gwyrdd a choch

Cynghrair: Adran Pedwar (De Ddwyrain) SWALEC

Hyfforddwr: Gareth Williams

Capten: Owain Tudur

Mae’r rhediad gwych o fuddugoliaethau cwpan i Dîm yr Wythnos yn parhau, ar ôl dîm rygbi ieuenctid Crymych ei gwneud hi’n bedair yn olynol wrth gipio Cwpan Sir Benfro nos Wener ddiwethaf.

Ond allech chi ddim cael cyferbyniad llawer mwy’r wythnos hon – wrth i’n Tîm yr Wythnos diweddaraf ni, Clwb Rygbi Cymry Caerdydd, baratoi i chwarae yn Stadiwm y Mileniwm.

Mae Cymry’r brifddinas wedi cyrraedd rownd derfynol Powlen SWALEC ac fe fyddan nhw’n herio Llanilltud Fawr er mwyn ceisio cipio’r tlws brynhawn ddydd Sul.

Bydd yn ddiweddglo cyffrous i dymor hynod o lwyddiannus i’r clwb, gafodd ei sefydlu nôl yn 1967 fel ffordd o ddod â Chymry Cymraeg at ei gilydd i chwarae’r gamp.

Maen nhw wedi sicrhau dyrchafiad eleni ar ôl gorffen yn ail yn Adran Pedwar (De Orllewin) Cynghrair SWALEC, gan ennill 18 o’u 21 gêm gynghrair y tymor hwn a cholli dim ond dwy.

Clwb Rygbi St. Joseph sydd wedi ennill eu cynghrair, er eu bod nhw wedi colli’r un nifer o gemau â Chymry Caerdydd, a hynny oherwydd eu bod wedi casglu cymaint o bwyntiau bonws dros y tymor.

Powlen SWALEC

A chyda thymor llwyddiannus iawn i’r clwb bron ar ben, mae’r holl sylw nawr yn troi at ffeinal Powlen SWALEC ar y penwythnos.

Cafodd Cymry Caerdydd daith gymharol rwydd i’r rownd derfynol, gan drechu Llandudno 20-0 yn y rownd gynderfynol yn dilyn buddugoliaethau dros Nantymoel, Llambed, Llandaf a Machen.

A dweud y gwir, eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth oedd yr un fwyaf heriol – wrth iddyn nhw drechu St. Joseph, eu gelynion yn y gynghrair, o 15-5.

Mae eu gwrthwynebwyr yn ffeinal y Fowlen, Llanilltud Fawr, hefyd yn yr un gynghrair â Chymry Caerdydd, ac yng nghanol y tabl ar ôl ennill naw gêm a cholli deg.

Ond gyda Chymry Caerdydd wedi’u trechu nhw ddwywaith y tymor hwn, o 26-18 gartref ac yna 9-15 oddi cartref, nhw fydd y ffefrynnau ar gyfer y ffeinal.

“Mae’n rhywbeth rydyn ni’n gorfod delio gyda,” meddai’r hyfforddwr Gareth Williams. “Mewn ffordd falle bod e’n haws i Lanilltud baratoi ar gyfer y gêm.

“Rydyn ni’n gwybod bod unrhyw beth yn gallu digwydd mewn 80 munud. Mae’n rhaid iddyn nhw [Llanilltud] fod ar eu gorau ond efallai bydd ‘bach o ryddid ganddyn nhw, lle mae ‘na ddisgwyl arnom ni i ennill – mae’n bwysau gwahanol.

“Ond mae chwaraewyr da gyda ni ac rydyn ni’n hyderus. Os chwaraewn ni’n dda a pheidio â cholli’n pennau a gwneud camgymeriadau, fe fyddwn ni’n iawn.”

Nerfusrwydd

Er hynny mae’r hyfforddwr yn cyfaddef y bydd chwarae yn Stadiwm y Mileniwm yn her feddyliol i’w chwaraewyr.

“Mar bois yn nerfus a dweud y gwir,” meddai Gareth Williams. “Fe es i lawr i’r stadiwm y diwrnod o’r blaen ac ro’n i’n synnu pa mor emosiynol oeddwn i wrth feddwl bod y clwb am fod yn chwarae yna.

“Fe fydd e’n sialens i’r chwaraewyr, pan maen nhw’n dod allan ar y cae a gweld eu teuluoedd a phawb arall yn eu gwylio, i gadw’r ffocws ar y gêm. Yr unig bryd maen nhw wedi bod yna yw gwylio sêr Cymru’n chwarae.

“Fe fydd e’n ddiwrnod cyffrous ond rhyfedd dwi’n credu.”

Ethos Cymraeg

Mae tua dau o bob tri o chwaraewyr y clwb yn siarad Cymraeg, gyda llawer o’r bechgyn eraill un ai’n briod â Chymry Cymraeg neu â phlant mewn ysgolion Cymraeg.

Ond ar ddiwedd y dydd eu gallu gyda’r bêl rygbi yn hytrach na chywirdeb eu hiaith yw’r peth pwysig, yn ôl Gareth Williams.

“Maen nhw’n mwynhau bod yn rhan o’r diwylliant Cymraeg sydd yma, a’i fod yn rhan o’r peth,” esboniodd Gareth Williams.

“Wrth ymuno â’r clwb maen nhw’n derbyn bod Cymreictod yn bwysig. Ond clwb rygbi ydyn ni, ddim clwb iaith.”

Bydd Cymry Caerdydd yn herio Llanilltud Fawr yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sul, gyda’r gic gyntaf am 1.00yp.

Tîm Cymry Caerdydd: 1. Nick Willetts, 2. Geraint Morgan, 3. Harri Greville, 4. Scott Conway, 5. James Ciaburro, 6. Owain Tudur, 7. Tom Richards, 8. Hywel Jones; 9. Deian Thomas, 10. Olly Jenkins, 11. Elgan Davies, 12. Alun Roberts-Jones, 13. Richard Read, 14. Amlyn Griffiths, 15. Paul Davies

Mainc: James Shaw, Christopher Thomas, Alex Lewis, Sam Rogers, John Gardner, Rhys Gosling, Eben Jones