Heini Gruffudd
Mae angen i’r Llywodraeth roi pwysau ar ragor o gynghorau sir Cymru i wneud eu gwaith mewnol trwy gyfrwng y Gymraeg, meddai’r mudiad Dyfodol yr Iaith.

Maen nhw hefyd yn galw am ragor o weithgareddau hamdden trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pobol ifanc.

Wrth ymateb i Safonau Iaith drafft Llywodraeth Cymru, fe ddywedodd y mudiad fod gormod o bwyslais ar ffurflenni a dogfennau ond fod “pethau llawer pwysicach na hynny” angen sylw.

Y galwadau

Maen nhw eisiau i’r safonau roi pwysau ar gynghorau i droi at ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith mewnol.

“Dim ond Gwynedd sy’n defnyddio’r Gymraeg yn fewnol.  Mae angen i’r Safonau osod targedau i gynghorau eraill Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg yn iaith gwaith bob dydd,” meddai Cadeirydd Dyfodol yr Iaith, Heini Gruffudd..

Maen nhw’n dweud bod angen trefnu gweithgareddau cymdeithasol trwy’r Gymraeg i bobol ifanc y tu allan i fyd addysg.

“Er bod un o’r safonau’n nodi bod angen i sefydliadau cyhoeddus ddarparu cyrsiau i bobol ifanc ac oedolion, mae angen gwneud yn siŵr bod pethau fel gwersi nofio, clybiau pobl ifanc ac ati ar gael mor helaeth yn y Gymraeg ag yn y Saesneg.”

“Mae angen dal y cyfle yma i hybu’r Gymraeg yn iaith y cartref, y gymuned a’r gweithle. Bydd methu â gwneud hyn yn rhywbeth y byddwn yn edifar iawn amdano yn y dyfodol.”

Y drefn

Fe gafodd drafftiau’r Llywodraeth eu cyhoeddi ym mis Ionawr eleni ac mae ymchwliad safonau gan Gomisiynydd y Gymraeg newydd ddod i ben.

Yn ôl y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fe ddylai’r safonau cynta’ fod mewn grym yn yr hydref.