Cyfrifiad 2011
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wrthi’n trafod adroddiad sy’n cynnig 70 o argymhellion i gryfhau’r Gymraeg yn y sir.
Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu yn dilyn canlyniadau “argyfyngus” Cyfrifiad 2011, lle gwelodd Sir Gaerfyrddin y cwymp mwyaf yn nifer y siaradwyr Cymraeg – sef 6%.
Mae’n galw am “newidiadau radical” i geisio rhwystro’r Iaith Gymraeg rhag diflannu ac yn cynnig argymhellion ym myd addysg, cynllunio, busnes, pobol ifanc ac ymgysylltu â’r gymuned.
Mae bwrdd gweithredol y cyngor eisoes wedi cefnogi’r adroddiad ac fe fydd y cyngor llawn yn penderfynu heddiw a ddylid derbyn yr argymhellion.
‘Angen sylw i dri maes arall’
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu nifer o’r argymhellion ond yn credu bod angen rhoi sylw i dri maes arall yn yr adroddiad, sef:
a) Gwella sgiliau gweithlu’r cyngor
(b) Ysgolion i adfer yr iaith mewn cymunedau ehangach
(c) Effaith datblygu tai newydd ar gymunedau
Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn y rhanbarth: “Rydyn ni’n falch bod yr argymhellion hyn wedi eu derbyn ac yn disgwyl nawr y bydd amserlen a chynllun gweithredu yn barod erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol.”