Richard Harrington yn Y Gwyll
Mae S4C wedi cadarnhau y bydd  y gyfres Y Gwyll ar gael i’w gwylio ar wefan Netflix.

Mae’r datblygiad diweddaraf yn golygu y bydd pobl yn America, Canada a gwledydd Sgandinafia yn cael cyfle i weld y ddrama dywyll a gafodd ei ffilmio yn ardal Aberystwyth.

Mae Netflix yn wefan ble mae defnyddwyr yn talu’n fisol i wylio rhaglenni teledu a ffilmiau. Y llynedd, fe wnaethon nhw gomisiynu a darlledu eu cyfres eu hunain, ‘House of Cards’, sy’n cynnwys Kevin Spacey ymhlith yr actorion.

Meddai Gwawr Martha Lloyd, comisiynydd drama S4C: “Mae ein partneriaid cyd-gynhyrchu yn All3Media International wedi cadarnhau y bydd Y Gwyll/Hinterland nawr ar gael ar Netflix ar draws gogledd America – yn yr UDA a Chanada – yn ogystal ag yn Sgandinafia.

“Mae hyn yn newyddion gwych i ni gan ei fod yn rhoi llwyfan i’r cyd-gynhyrchiad S4C yma o Gymru yn yr UDA/Canada am y tro cyntaf – a hynny ochr yn ochr â rhai o gyfresi teledu mwyaf eiconig ein cenhedlaeth.”

Ddechrau’r mis, fe wnaeth S4C a BBC Cymru gyhoeddi y bydd gwaith yn cychwyn ar gyfres newydd bum-rhan o Y Gwyll ym mis Medi 2014.