Cyn aelodau y grŵp chwedlonol Edward H Dafis yw prif atyniad Gŵyl Nôl a Mla’n yn Llangrannog eleni.

Bydd H a’r Band yn perfformio ar brif lwyfan yr ŵyl fach boblogaidd ar y nos Sadwrn eleni.

Mae’r ŵyl awyr agored ar lan y môr yn dychwelyd i’r pentref unwaith eto gydag arlwy cyffrous o oreuon y sîn gerddoriaeth Gymraeg.

Ar nos Wener, Mehefin 6 fe fydd y band ifanc Dixie yn agor yr ŵyl a’r ferch o Sir Benfro, Lowri Evans ac Al Lewis ymhlith enwau mwya cyfarwydd y lein-yp.

Bydd diwrnod o weithgareddau ar y dydd Sadwrn (Mehefin 7) gan gynnwys nifer o gôrau lleol.

Ar y prif lwyfan, fe fydd Bromas yn cychwyn y roc, ac mae’r lein-yp yn cynnwys Mellt, Kizzy Crawford, a’r ‘siwpyr grŵp’ Endaf Gremlin.

Mae Endaf Gremlin yn fand sy’n cynnwys Mei Gwynedd (Sibrydion/Big Leaves/Y Peth), Osian Williams (Cowbois Rhos Botwnnog), Rhys Aneurin (Yr Ods), Dylan Hughes (Race Horses/Radio Luxemburg) a Dafydd Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog).

Uchafbwynt y nos Sadwrn a’r ŵyl gyfan fydd gweld cyn aelodau Edward H yn ôl ar y llwyfan.

Perfformiodd y band eu gig olaf yn swyddogol yn Eisteddfod Dinbych y llynedd.

Dywedodd y trefnwyr wrth golwg360 y bydd rhagor o enwau’n cael eu cyhoeddi yn y man.