Mae cwmni bysys Stagecoach wedi cyhoeddi eu bod yn cau eu safle ym Mrynmawr yng Ngwent.

Mae 77 o swyddi yn y fantol yn sgil y cyhoeddiad i gau’r safle ym mis Gorffennaf.

Bydd y penderfyniad yn effeithio ar wasanaethau’r cwmni yn Sir Fynwy, Torfaen, Caerffili a Rhondda Cynon Taf.

Dywed y cwmni bod Llywodraeth Cymru wedi torri 25% oddi ar eu cyllid.

Mae penaethiaid y cwmni’n cwrdd â chynrychiolwyr yr undebau i drafod dyfodol eu gweithwyr.

Mae lle i gredu y gallai nifer o’r staff gael cynnig swyddi yng nghanolfannau eraill y cwmni.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw torri £24 miliwn oddi ar y cynllun gostyngiadau i deithwyr.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ymateb i bryderon y cwmni ddydd Gwener.

‘Toriadau camsyniol’

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru, Jon Gould: “Rydyn ni wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru ers misoedd y byddai’r toriadau camsyniol hyn yn cael effaith difrifol ar bobol sy’n ddibynnol ar y bws ac ar weithwyr bysys.

“Dydyn nhw ddim wedi gwrando a nawr, yn drist iawn, fe fydd pobol leol yn teimlo effeithiau eu penderfyniadau.

“Mae gweithredoedd gweinidogion bellach yn uniongyrchol gyfrifol am y posibilrwydd o golli swyddi a rhoi ardaloedd cyfan mewn perygl o gael eu torri i ffwrdd o wasanaethau bysys.

“Byddwn yn parhau i frwydro dros hawliau teithwyr bysys yng Nghymru ond yn drist iawn, mae’n amhosib parhau i ddarparu’r un lefel o wasanaethau i deithwyr pan ydyn ni’n gweld toriad ar ôl toriad mewn buddsoddiadau ar gyfer gwasanaethau bysys lleol.”

Ychwanegodd fod rhaid i’r cwmni ymateb er mwyn cynnal gwasanaethau eraill yn ne Cymru.

Eisoes, mae cwmnïau Arriva Cymru a Bysys Caerdydd wedi cyhoeddi toriadau i’w gwasanaethau, gan gynnwys cau safle Arriva Cymru yn Aberystwyth.

Ychwanegodd Jon Gould mai “ateb terfynol” oedd cau safle Brynmawr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae hyn yn newyddion siomedig dros ben.

“Cafodd y cyfradd ad-dalu newydd ar gyfer gweithredwyr bysys ei osod yn dilyn arolwg annibynnol er mwyn sicrhau nad oedd gweithredwyr megis Stagecoach “yn well nac yn waeth eu byd” trwy gymryd rhan. 

“Hyd yma, dydy Stagecoach ddim wedi hysbysu Llywodraeth Cymru yn ffurfiol o’r bygythiad o safbwynt cau neu dorri gwasanaethau.”