Neuadd Pantycelyn
Bydd Neuadd Pantycelyn yn cael ei chadw ar agor yn dilyn cyfarfod y bore yma rhwng Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) ac awdurdodau Prifysgol Aberystwyth.

Bu’r myfyrwyr yn bygwth ymprydio’n gynharach yn yr wythnos i gadw’r neuadd breswyl ar agor, ac mae’n ymddangos fod eu hymdrechion wedi bod yn llwyddiannus.

Dechreuodd nifer o fyfyrwyr UMCA drydar eu buddugoliaeth toc wedi un y prynhawn heddiw, ac yna cafwyd cadarnhad o’r newyddion ar raglen Taro’r Post gan Ddirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol Rhodri Llwyd Morgan a Llywydd UMCA Mared Ifan.

UMCA’n dathlu

Wrth ymateb i’r newyddion talodd Llywydd UMCA Mared Ifan deyrnged i’r holl fyfyrwyr ac eraill fu’n cefnogi’r ymgyrch.

“Rydyn ni wrth ein bodd ac yn croesawu penderfyniad y Brifysgol yn fawr,” meddai Mared Ifan. “Diolch i holl aelodau UMCA am eu gwaith caled, ac i’n cefnogwyr i gyd. Ar ôl yr holl ymgyrchu, rydyn ni wedi sicrhau llwyddiant anferthol. Mewn undeb mae nerth.”

Cadarnhaodd UMCA hefyd y byddai’r cynlluniau newydd ar gyfer y neuadd, sydd yn cynnwys datblygu canolfan Gymraeg yn ogystal â neuadd breswyl.

Bydd Gweithgor a Fforwm Staff a Myfyrwyr Cymraeg yn cael ei sefydlu yn yr wythnos nesaf  er mwyn parhau i drafod y cynlluniau hynny, ond fe fynnodd UMCA bod “sicrwydd na fydd bodolaeth y Ganolfan yn cael effaith negyddol o gwbl ar yr elfen llety”.

Canolfan i’r Gymraeg

Mewn datganiad  dywedodd Prifysgol Aberystwyth y bydden nhw’n gweithio gyda’r myfyrwyr nawr i ddatblygu’r neuadd breswyl fel canolfan i’r Gymraeg ar y campws.

“Mae Prifysgol Aberystwyth yn croesawu’r cytundeb heddiw gydag UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) i weithio gyda’r Brifysgol i ddatblygu Cynllun Busnes ar ddefnydd Neuadd Pantycelyn i’r dyfodol fel Canolfan Gymraeg a Diwylliant,” meddai datganiad y Brifysgol.

“Mae hyn yn cynnwys datblygu opsiynau manwl ar gyfer parhad Pantycelyn fel llety arlwyo ar gyfer myfyrwyr sy’n siaradwyr Cymraeg ac yn ddysgwyr y Gymraeg.

“Yn sgìl ymgynghori gydag aelodau o staff dysgu’r Brifysgol a Changen Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r Brifysgol wedi datblygu cynnig a fydd yn gweld y Brifysgol ac UMCA yn cydweithio’n agos ar y Cynllun Busnes.

Gobaith y Brifysgol yw y bydd y Ganolfan Gymraeg a Diwylliant yn gweithredu fel canolbwynt i’n cymuned Gymraeg cyfan, gan gynnwys myfyrwyr, staff ynghyd â’r gymuned ehangach.”

Ond fe bwysleisiodd y Brifysgol eu bod hefyd wedi bod yn agored â’r myfyrwyr ynglŷn â’u cynlluniau ar gyfer y llety newydd ar Fferm Penglais.

“Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymedig i ddenu myfyrwyr Cymraeg i Aberystwyth ac i hybu’r modd y maent yn cael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sy’n ehangu ynghyd ag ystod mor eang â phosib o gyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol Cymraeg,” meddai’r Brifysgol.

“Ar hyd yr adeg, bwriad datblygu llety cyfrwng Cymraeg o safon uchel fel rhan o ddatblygiad £45m Fferm Penglais oedd sicrhau bod myfyrwyr sy’n medru neu’n dysgu’r Gymraeg yn mwynhau llety a chyfleusterau cymunedol o’r radd flaenaf, a gyda’r gorau mewn unrhyw brifysgol.

“Mae datblygiad Fferm Penglais wedi bod yn amcan a ddiffiniwyd yn hollol glir gan y Brifysgol ers bron i 6 mlynedd. Bu cynrychiolwyr y myfyrwyr, gan gynnwys Llywydd UMCA a Llywydd Undeb y Myfyrwyr, yn rhan lawn o’r ymgynghoriad ar hyd y ffordd.”