Mae newid hinsawdd eisoes yn cael effaith ar draws y byd gan effeithio ar bob rhan o fywyd gan gynnwys iechyd pobl, amaeth a bywyd gwyllt, yn ôl adroddiad rhyngwladol sydd wedi cael ei gyhoeddi yn Siapan heddiw.

Mae adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) yn rhybuddio y bydd cynnydd yn y tymheredd yn bygwth iechyd a chyflenwad bwyd, yn achosi rhagor o dlodi, ac yn effeithio  bywyd gwyllt a chynefinoedd.

Mae’r byd eisoes yn gweld effaith newid hinsawdd ar bob cyfandir ar draws y byd, ac mae arbenigwyr yn rhybuddio nad yw pobl, mewn nifer o achosion, wedi paratoi’n ddigonol i fynd i’r afael a’r peryglon.

Mae’r adroddiad yn awgrymu bod llai o bobl yn marw oherwydd yr oerfel ond bod cynnydd wedi bod yn nifer y marwolaethau o ganlyniad i’r gwres mewn rhai llefydd, fel Cymru a Lloegr.

Dywed yr adroddiad y bydd newid hinsawdd yn arwain at fwy o lifogydd, sychder, a thywydd poeth a bydd cnydau gwenith, reis a chorn hefyd yn cael eu heffeithio.

Yr adroddiad gan banel y Cenhedloedd Unedig yw ail mewn cyfres o bedwar adroddiad sy’n cael eu paratoi gan gannoedd o rai o wyddonwyr gorau’r byd.

‘Newid mawr yng Nghymru’

Yn ôl Cyfeillion y Ddaear Cymru, bydd effeithiau newid hinsawdd yn golygu newid mawr yma yng Nghymru hefyd.

Meddai Gareth Clubb, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru: “Mae’r adroddiad yma’n son am effeithiau posib newis hinsawdd ar y byd gan gynnwys lleihad mewn cnydau ar adeg mae’r boblogaeth yn tyfu.

“Bydd hynny’n golygu y bydd prisiau bwyd yn mynd i fyny a phwy a ŵyr, efallai y bydd adegau o brinder bwyd hefyd.

“Rydyn ni’n ymwybodol bod newid hinsawdd yn mynd i  olygu mwy o law a llifogydd. Mae rhagolygon yn dangos y bydd lefelau mor yn codi hyd at fetr erbyn diwedd y ganrif – felly byddwn ni’n  gorfod ffarwelio a llefydd fel Borth yng Ngheredigion ac ardaloedd yn nyffryn Conwy.

“Ar ben hynny, roedd adroddiad a gyhoeddwyd wythnos diwethaf yn dweud y bydd hafau poeth fel yr un yn a gafwyd yn  2003 – pan fu farw dros 80,000 o bobl ar draws Ewrop – yn arferol erbyn y 2040au felly mae lot gwaeth i ddod.

“Os na wnawn ni popeth yn ein gallu i droi ein cefnau ar danwydd ffosil, bydd ein plant a’u plant nhw yn byw mewn byd annymunol iawn.”

‘Angen gweithredu gwirioneddol’

Dywedodd Jessica McQuade, Swyddog Polisi a Dadleuaeth WWF Cymru:

“Mae’r adroddiad hwn yn dwysáu’r angen am weithredu gwirioneddol a phenodol ar unwaith i gwtogi ar ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru, er mwyn helpu i leihau’r risgiau enfawr i bobl a natur o newid peryglus yn yr hinsawdd.

“Mae yna fwlch anferth rhwng yr hyn mae gwyddoniaeth yn ei ddweud wrthym y mae angen i ni ei wneud a beth mae llywodraethau ledled y byd yn ei wneud mewn gwirionedd. Er ein bod yn falch bod Llywodraeth Cymru’n cydnabod ei rhan yn y gwaith o fynd i’r afael â’r mater hwn, erbyn hyn mae angen iddi weithredu’n gyflym i gwtogi ar ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr yn gynt.

“Mae angen i Weinidogion ym Mae Caerdydd gymryd camau gwirioneddol a phenodol i gwtogi ar allyriadau, fel gwneud cartrefi Cymru’n fwy ynni effeithlon, helpu i symud ein system ynni i ffwrdd o danwyddau ffosil a thuag at ffynonellau adnewyddadwy, a gweddnewid economi Cymru. Hefyd mae angen i ni fod yn barod am effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, sy’n debygol o olygu tywydd mwy eithafol o’r math a welsom yn gynharach eleni.”